Newyddion S4C

Pum grŵp gwirfoddol o Gymru yn derbyn anrhydedd Gwobr y Brenin

14/11/2024
Popham Kidney Support Group

Mae pum grŵp o Gymru ymhlith y mudiadau sydd wedi eu hanrhydeddu â Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol 2024. 

Mae’r wobr yn cael ei rhoi i grwpiau gwirfoddol bob blwyddyn – gydag ymgyrchwyr dros iechyd meddwl a chorfforol, yr amgylchedd a mudiadau er lles cymunedau ymhlith y rhai o Gymru sydd wedi eu hanrhydeddu eleni.  

Pwy yw’r enillwyr? 

Popham Kidney Support

Dyma elusen genedlaethol sydd yn cefnogi pobl sy’n byw â chlefyd yr aren. Mae’r elusen yn rhoi cymorth i bobl a’u teuluoedd ar hyd a lled y wlad, gan helpu unigolion fynd i’r afael a phroblemau ariannol, meddyliol a chorfforol. 

Dywedodd prif weithredwr yr elusen, Joanne Popham, ei bod yn “anrhydedd” derbyn y wobr, a hynny wedi iddi hi a’i chwaer Claire sefydlu’r elusen 11 mlynedd yn ôl, er cof am eu tad Paul Popham a fu farw o glefyd yr aren. 

Image
Joanne Popham
Joanne Popham (Llun gan Popham Kidney Support/Facebook)

Cyfeillion Castell Ystumllwynarth

Mudiad cymunedol o Abertawe yw Cyfeillion Castell Ystumllwynarth, sydd wedi ymrwymo i gynnal y castell yn y Mwmbwls, sy'n dyddio nol i'r 12fed ganrif. Mae'r safle'n croesawu 1,500 o ymwelwyr bob blwyddyn. 

Image
Cyfeillion Castell Ystumllwynarth
Llun gan Cyfeillion Castell Ystumllwynarth/Facebook

My Green Valley

Mudiad cymunedol arall o Gwm Tawe yw My Green Valley. Maen nhw’n cydweithio gydag ysgolion, grwpiau ac unigolion lleol fel rhan o ymgyrch i gadw’r cwm yn lân. 

Image
My Green Valley
Llun gan My Green Valley/Facebook

Sefydliad Cenedlaethol Gwylwyr y Glannau (Nell’s Point)

Mae’r Gwylwyr y Glannau sy’n gyfrifol am ardal y Barri wedi cael eu hanrhydeddu eleni am ddarparu gwasanaeth cyson trwy gydol y flwyddyn, gan sicrhau diogelwch pobl ger yr arfordir. Nell’s Point sydd â’r amrediad llanw ail uchaf yn y byd.

Image
Gwylwyr y Glannau
Llun gan Sefydliad Cenedlaethol Gwylwyr y Glannau (Nell’s Point)/Facebook

Neath Port Talbot Stroke Group

Mudiad yng Nghastell-nedd Port Talbot sydd yn helpu pobl â theuluoedd i ddychwelyd i fywyd bob dydd ar ôl dioddef strôc. Cafodd y grŵp ei anrhydeddu am eu holl waith yn cefnogi pobl wrth iddyn nhw wella yn dilyn y salwch.

Image
Neath Port Talbot Stroke
Llun gan Neath Port Talbot Stroke Group/Facebook

‘Ysbryd cymunedol’

Cafodd 281 grŵp eu hanrhydeddu â Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol eleni. 

Cafodd 232 sefydliad o Loegr eu hanrhydeddu, 21 o’r Alban, 22 o Ogledd Iwerddon, a phump o Gymru. 

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Jo Stevens mai gwirfoddolwyr ydy “asgwrn cefn” y gymdeithas.

“Mae’n anhygoel gweld gwaith caled cynifer o bobl ledled Cymru yn cael eu cydnabod gyda Gwobr y Brenin,” meddai. 

Dywedodd Cadeirydd y wobr, Syr Martyn Lewis CBE: “Ers iddyn nhw gael eu sefydlu, mae’r gwobrau wedi dangos pobl o’r pedair gwlad yn y DU ar eu gorau.” 

Ychwanegodd fod y gwobrau yn profi fod ysbryd cymunedol pobl yn parhau i fod “mor gryf ag erioed."

Prif lun: Popham Kidney Support

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.