Teulu merch fach a fu farw wedi gwrthdrawiad yn Sir Benfro yn cynnal apêl codi arian
Mae teulu merch fach chwe mis oed a fu farw wedi gwrthdrawiad mewn maes parcio yn Sir Benfro wedi dechrau apêl codi arian ar gyfer ei hangladd.
Gobaith y teulu yw y bydd ei chorff yn dychwelyd i Rwmania yn y pen draw, sef y wlad o ble y daw'r teulu'n wreiddiol.
Bu farw Sophia Kelemen o'i hanafiadau yn yr ysbyty ar 3 Ionawr, ddiwrnod wedi'r gwrthdrawiad ar lawr gwaelod maes parcio aml-lawr yn Ninbych-y-pysgod.
Roedd Sophia, ei rhieni Alex a Betty a'i brawd pump oed ar eu gwyliau yn ne Cymru o Leigh, yn ardal Manceinion.
Wrth apelio am gymorth ariannol, dywedodd ei modryb Adriana Kelermen: "Ni fyddwn byth mewn miliwn o flynyddoedd wedi meddwl y byddai'n rhaid i mi ysgrifennu post fel hyn.
"Fy enw i yw Adriana, modryb fy nith annwyl Sophia. Trodd diwrnod a oedd yn ymddangos yn gyffredin yn hunllef waethaf ein teulu.
"Cludwyd y babi mewn hofrennydd i'r ysbyty gyda'i phelfis wedi torri a gwaed ar yr ymennydd ac yn y pen draw cafodd ddiagnosis o niwed i'r ymennydd oherwydd yr effaith.
"Er gwaethaf ymdrechion y meddygon, ni allai Sophia ymdopi â'r niwed, roedd y llawdriniaeth, anesthesia, gwaedu'r ymennydd a'r holl anafiadau yn ormod i'w chalon fregus, a roddodd orau iddi yn y pen draw."
'Angenrheidiol'
Dywedodd ei modryn ei bod drwy gynnal yr apêl ariannol yn "gobeithio lleddfu rhan fach iawn o loes a dioddefaint fy mrawd a chwaer yng nghyfraith a chodi rhan o’r arian angenrheidiol ar gyfer costau’r angladd a’i dychwelyd (i Rwmania)."
Roedd meddai'n ddigwyddiad "na allai neb fod wedi’i ddisgwyl na chynllunio ar ei gyfer, yn enwedig ar ôl gwyliau'r Nadolig."
Mae Flaviu Naghi, 33 oed o Wigan, wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth Sophia drwy yrru’n beryglus, a gyrru heb yswiriant na thrwydded, ar ôl iddo gael ei arestio yn dilyn y gwrthdrawiad.
Fe wnaeth ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ar ddydd Sadwrn 4 Ionawr.
Bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 7 Chwefror.