Chwe Gwlad: Sam Costelow allan gydag anaf wrth i Warren Gatland enwi carfan Cymru
Mae Warren Gatland wedi enwi carfan sy’n cynnwys un chwaraewr sydd fel arfer yn chwarae yn safle'r maswr yn unig wedi i Sam Costelow ddioddef anaf.
Fe dorrodd Costelow bont ei ysgwydd wrth chwarae dros y Scarlets yn erbyn Caerloyw nos Wener a ni fydd yn chwarae am 12 wythnos.
Mae’n golygu mai’r rhif 10 di-gap o'r Gweilch, Dan Edwards yw’r unig chwaraewr sydd fel arfer yn chwarae yn safle’r maswr sydd yn y garfan, er y gall y canolwr Ben Thomas o Rygbi Caerdydd chwarae yn y safle hwnnw hefyd.
Mae’r asgellwr Josh Adams hefyd yn dychwelyd i’r garfan ar ôl colli taith yr haf i Awstralia a gemau’r Hydref.
Enw newydd arall yw asgellwr y Scarlets, Ellis Mee.
Jac Morgan sydd wedi ei enwi yn gapten.
Nid yw Cam Winnett wedi ei enwi yn y sgwad, a does dim lle chwaith i Gareth Anscombe, Taine Plumtree, Rio Dyer na Max Llewellyn.
"Fe fydd yna rhai chwaraewyr siomedig iawn sydd heb eu dewis,” meddai Warren Gatland.
“Y neges iddyn nhw yw dal ati i weithio'n galed oherwydd does neb yn gwybod beth all ddigwydd.
"Rwy'n edrych ymlaen at ddechrau ein hymgyrch pan fydd y garfan yn ymgynnull.
“Mae pob sesiwn ymarfer yn hynod o bwysig o ran ein paratoadau ar gyfer y gêm gyntaf honno a byddaf yn gobeithio gweld llawer o waith caled a phawb yn cydweithio."
Bydd gem gyntaf Cymru yn erbyn Ffrainc yn y Stade de France ar 31 Ionawr.
Bydd bob un o gemau Cymru ar gael i’w gwylio ar S4C.
Y sgwad
Olwyr: Liam Williams, Tom Rogers, Blair Murray, Josh Adams, Josh Hathaway, Ellis Mee, Eddie James, Nick Tompkins, Owen Watkin, Joe Roberts, Ben Thomas, Dan Edwards, Rhodri Williams, Ellis Bevan, Tomos Williams.
Blaenwyr: Kemsley Mathias, Nicky Smith, Gareth Thomas, Henry Thomas, WillGriff John,Keiron Assiratti, Elliot Dee, Evan Lloyd, Sam Parry, Dafydd Jenkins, Will Rowlands, Freddie Thomas, Teddy Williams, Christ Tshiunza, James Botham, Tommy Reffell, Jac Morgan (c), Taulupe Faletau, Aaron Wainwright.