Newyddion S4C

Pen-y-bont ar Ogwr i elwa wedi cyhoeddiad 'AI'

13/01/2025
Ffatri Ford Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, wedi croesawu'r cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU y bydd buddsoddiad gwerth biliynau o bunnoedd mewn Deallusrwydd Artiffisial (AI) gan nodi y bydd Cymru yn rhan ganolog o'r prosiect.

Mae cwmni mawr ym maes technoleg yn yr Unol Daleithiau, Vantage Data Centers, yn bwriadu buddsoddi dros £12 biliwn ar draws y DU, gan greu dros 11,500 o swyddi. 

Yn ôl Eluned Morgan, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Vantage ers 2020 i "gefnogi datblygiad ei ganolfannau data yng Nghymru."

Mae Cymru mewn "sefyllfa unigryw" i elwa o'r cynlluniau seilwaith AI, gyda gwaith eisoes ar y gweill i ddatblygu canolfannau technoleg, adnoddau a rennir a chanolfannau data, medd Llywodraeth Cymru.

Hen ffatri Ford

Yn ôl y Prif Weinidog, mae diswyl i'r rhan helaethaf o'r buddsoddiad newydd gan Vantage ddod i Gymru, gyda'r buddsoddiad mwyaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle mae'r cwmni'n bwriadu datblygu hen safle ffatri Ford i fod yn un o gampysau canolfan ddata fwyaf Ewrop.

Dywedodd Eluned Morgan: "Mae'r cyhoeddiad heddiw, sy'n cynnwys buddsoddiad gwerth biliynau o bunnoedd mewn AI gan rai o gwmnïau technoleg mwyaf y byd, yn hwb enfawr i hyder diwydiant yng Nghymru.

"Gall sefydlu'r dechnoleg a'r seilwaith ehangach yma yng Nghymru arwain at fanteision enfawr i’r economi. Mae arweinwyr y diwydiant yn cydnabod bod yr amodau'n iawn yma yng Nghymru.

"Ni fydd hyn yn digwydd dros nos ac mae'n bwysig bod y seilwaith, y data, y sgiliau a'r dalent ar gael i sicrhau bod pob un ohonom yn elwa o'r datrysiadau hyn. Does dim amheuaeth bod Cymru mewn sefyllfa ardderchog i elwa o ystyried y gwaith sydd eisoes ar y gweill yma."

Mae Ysgrifennydd yr Economi, Rebecca Evans, yn arwain adolygiad i ddarganfod sut y gall Cymru fanteisio ar gyfleoedd a datblygu cryfderau Cymru o ran datblygu technolegau sy'n seiliedig ar AI.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.