'Rhan o'n hanes nid ein dyfodol': Galw am ddiwedd i'r diwydiant glo
Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wedi galw ar Lywodraeth Cymru i “roi’r gorau” i’r diwydiant glo gan ddweud ei fod yn “rhan o’n hanes” nid “ein dyfodol.”
Dywedodd Derek Walker ei fod am i’r llywodraeth “gryfhau” eu polisïau ynglŷn â’r diwydiant glo a rhoi “diwedd pendant” i’r gwaith o fwyngloddio.
Mae wedi beirniadu’r llywodraeth am ganiatáu trwyddedau glo o dan “amgylchiadau hollol eithriadol” er eu bod wedi ymrwymo i symud i ffwrdd o’r diwydiant glo a nwy.
Mae’n galw ar y llywodraeth i addasu eu polisïau, gan atal unrhyw fwyngloddio.
Ond mae'r llywodraeth wedi amddiffyn eu polisi glo gan ddweud "efallai y bydd angen echdynnu glo mewn amgylchiadau cwbl eithriadol."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod eu polisïau "yn ei gwneud yn glir" bod eu nod yw "rhoi stop ar echdynnu a defnyddio glo."
‘Hollol yn erbyn’
Gan gyfeirio at gais i barhau gyda’r gwaith o fwyngloddio ym mhwll glo Glan Lash yng Nghaerfyrddin, yn ogystal â chais disgwyliedig tebyg yng Nghaerffili, dywedodd Mr Walker ei fod yn “hollol yn erbyn” unrhyw ddatblygiadau sydd o blaid y diwydiant glo yn parhau.
“Mae glo yn rhan o’n hanes. Dyw e ddim yn rhan o’n dyfodol,” meddai.
“Fe allai’r llifogydd a’r marwolaethau a gwelwyd yn Valencia ddigwydd yng Nghymru. Rydyn ni eisoes yn ddioddef llifogydd, o Bontypridd i Lanrwst.”
Dywedodd bod yn rhaid “i ni ddeffro a stopio gwneud yr hyn sydd yn peryglu ein gallu i oroesi.”
“Mae angen system ynni sydd wedi ei ddatgarboneiddio arnom, sy’n rhoi buddion i bobl yn eu cymunedau, fel aer glân a diwydiannau a swyddi ar gyfer y dyfodol.”
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru: "Mae gennym hefyd ddyletswydd i reoli cau ac adfer safleoedd mwyngloddio presennol a hanesyddol yn ddiogel.
"Felly, efallai y bydd angen echdynnu glo mewn amgylchiadau cwbl eithriadol a bydd pob cynnig yn cael ei benderfynu ar ei rinweddau ei hun.
"Fodd bynnag, rydym yn glir y bydd y rhagdybiaeth bob amser yn erbyn echdynnu glo yn y lle cyntaf."