Newyddion S4C

Pa dre’ ydi’r 'fwyaf fforddiadwy' yng Nghymru?

Glynrhedynog

Mae pedair o’r pum tref “fwyaf fforddiadwy” yng Nghymru o fewn yr un sir, yn ôl ffigyrau newydd. 

Mae arolwg gan gwmni tai Zoopla yn awgrymu fod pedair o’r ardaloedd mwyaf fforddiadwy yng Nghymru yn sir Rhondda Cynon Taf. 

Roedd Zoopla wedi dadansoddi’r gymhareb rhwng gwerth tai ac enillion pobl, er mwyn dod o hyd i’r ardaloedd fwyaf fforddiadwy i fyw. 

Roedd hynny’n seiliedig ar aelwydydd gyda dau berson oedd yn gweithio’n llawn amser ac yn ennill cyflog cyfartalog am eu hardal. 

Mae'r adroddiad yn dweud mai Glynrhedynog yng Nghwm Rhondda yw'r lle mwyaf fforddiadwy i fyw yng Nghymru. 

Ar gyfartaledd, gwerth tŷ yn yr ardal honno ydy £101,600, gyda pherchnogion yn ennill cyflog ar y cyd gwerth £67,700. 

Aberpennar yng Nghwm Cynon oedd yn ail yn y rhestr o lefydd mwyaf fforddiadwy i fyw yng Nghymru, gyda Phentre ger Treorci yng Nghwm Rhondda yn drydedd a Thonypandy yn y Rhondda yn bedwerydd. 

Abertyleri ym Mlaenau Gwent daeth yn bumed ar y rhestr.  

Cumnock yn Ne Ayrshire oedd yr ardal fwyaf fforddiadwy i fyw yn yr Alban a Shildon yn Sir Durham oedd yr ardal fwyaf fforddiadwy yn Lloegr. 

Llun o Lynrhedynog (Wikipedia)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.