Caerdydd: Lansio ymchwiliad llofruddiaeth wedi marwolaeth dyn 43 oed
Mae'r heddlu wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth wedi marwolaeth dyn 43 oed yng Nghaerdydd.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i adroddiadau o drywanu ar Heol Trostre yn Llaneirwg tua 16:00 ddydd Mawrth.
Dywedodd y llu bod teulu'r dyn fu farw yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbennig.
Mae cordon dal mewn lle yn yr ardal a bydd mwy o swyddogion yr heddlu ar y strydoedd dros y dyddiau nesaf.
Mae Ditectif Uwcharolygydd Paul Raikes o Dîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru yn apelio am unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw.
"Mae ymchwiliad llofruddiaeth wedi cychwyn ac rydym yn apelio am unrhyw dystion oedd o gwmpas ardal Heol Trostre a Coleford Drive yn Llaneirwg tua 16:00 ddydd Mercher i gysylltu gyda ni os oes ganddyn nhw unrhyw fath o wybodaeth," meddai.
"Rydym yn apelio hefyd i unrhyw un sydd â lluniau neu fideos ar eu ffonau symudol neu luniau cylch cyfyng i gysylltu gyda ni."
Llun: Google