Newyddion S4C

Dyn o Geredigion yn cyfaddef cynhyrchu DVDs ffug 'ers blynyddoedd'

S4C

Mae dyn 47 oed o Geredigion wedi ei ddedfrydu i 20 mis o garchar wedi'i ohirio am 18 mis am gynhyrchu a gwerthu DVDs ffug.

Plediodd David Robert Thomas o Sarnau yn euog i'r cyhuddiadau yn Llys y Goron Abertawe. Roedd wedi bod yn gwerthu'r DVDs heb ganiatâd y cwmnïau wnaeth eu cynhyrchu ers "nifer o flynyddoedd."

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod Thomas yn cynhyrchu a gwerthu DVDs ffug dan yr enwau brand oedd yn perthyn i Netflix, Amazon Technologies, Disney Enterprises, Sony, ac Universal City Studios LLC.

Sefydlodd saith gwefan unigol, a roedd wedi defnyddio nifer o gyfrifon banc a PayPal gan gynnwys rhai aelodau o’i deulu.

Clywodd y llys y byddai gwerth DVDs tebyg cyfreithlon wedi bod tua £150,000. Wrth ddefrydu, dywedodd y barnwr ei fod yn cymryd y ffigwr yna i ystyriaeth, yn ogystal â natur soffistigedig ei fusnes, cymeriad da blaenorol Mr Thomas, a'r ffaith ei fod wedi pleidio’n euog.

Cafodd David Thomas ei ddedfrydu i 20 mis yn y carchar wedi'i ohirio am 18 mis, gyda chyrffyw 4 mis , a 15 diwrnod o adsefydlu (rehab).

Bydd achosion atafaelu a fforffedu yn erbyn Mr Thomas yn cael eu cynnal yn ddiweddarach. Pwrpas achos o'r fath yw adfer y budd ariannol y mae Mr Thomas wedi'i gael o werthu'r DVDs

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Ddiogelu'r Cyhoedd bod pobl sydd yn ffugio pethau fel DVDs yn niweidio'r economi lleol. 

“Mae ffugio yn aml yn cael ei ystyried yn drosedd heb ddioddefwyr, ond pan fydd rhywun yn gwerthu nwyddau ffug, maent yn niweidio'r economi leol trwy danseilio busnesau a masnachwyr manwerthu cyfreithlon, sy'n talu trethi ac yn darparu swyddi gwirioneddol i bobl," meddai. 

"Mae'r canlyniad hwn yn danfon neges glir na fydd gwerthu nwyddau ffug yn cael ei oddef yn ein sir ac na fyddwn yn oedi cyn cymryd camau gorfodi yn erbyn unrhyw fasnachwr a geir yn gwneud hynny.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.