Ffermwyr Cymru'n wynebu 'colled enfawr' wedi newid yn y drefn ariannu
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi rhybuddio y gallai ffermydd Cymru weld "colled enfawr" i'w cyllid yn sgil newidiadau yn y Gyllideb.
Maen nhw wedi cysylltu â Llywodraeth y DU er mwyn gofyn "am eglurder” ynglŷn â beth yn union fydd y newidiadau yn ei olygu i ffermwyr.
Fel rhan o Gyllideb y Canghellor Rachel Reeves, fe fydd cyllid ar gyfer amaethyddiaeth bellach yn cael ei ddarparu i’r gwledydd datganoledig drwy’r fformiwla Barnett, yn hytrach na fel taliad ar wahân, fel yr oedd o'r blaen.
Ond o dan y drefn newydd, mae llywydd Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud y byddai'r arian i ffermwyr Cymru yn cwympo o 9.4% o gyllid amaethyddol y DU i tua 5%.
Byddai hynny’n golygu toriadau o tua 40% mewn cyllid, meddai Ian Rickman.
Dywedodd eu bod yn derbyn 9.4% o gyllid amaethyddol y DU pan roedd y wlad yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd. Roedd y cyllid yma'n seiliedig ar feini prawf penodol yn ymwneud â maint, natur a nifer y ffermydd ym mhob gwlad.
Ond bellach, meddai Mr Rickman, mi fyddai’r fformiwla Barnett – sydd yn seiliedig ar boblogaeth y wlad yn hytrach na "nodweddion unigryw ffermydd" – yn golygu colled “sylweddol” i’r arian sydd yn cael eu rhoi i’r diwydiant amaethyddol.
'Pryderus'
Dywedodd Mr Rickman, bod ffermwyr ac amaethwyr ar hyd a lled y wlad eisoes yn “bryderus” ac yn “flin” yn dilyn y diffyg eglurder ynghylch newidiadau i’r dreth etifeddu.
“Er mai Llywodraeth Cymru fydd â’r gair olaf ynglŷn â’r gyllideb amaethyddol yng Nghymru yn y pen draw, byddai ‘Barnetteiddio,’ neu unrhyw ostyngiad yng nghyllid amaethyddol Cymru gan y Trysorlys yn tanseilio’r diwydiant ymhellach,” meddai.
Dywedodd na fyddai’r £1.7 biliwn ychwanegol a fydd yn cael eu rhoi i Gymru o gymorth i’r sector chwaith, gan mai ysgolion, tai, iechyd a thrafnidiaeth fydd yn elwa o hynny.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn y broses o ddatblygu Cyllideb Ddrafft 2025-26 Cymru, a hynny "yn erbyn cefndir ariannol heriol."
Fe fydd y Gyllideb Ddrafft yng Nghymru yn cael ei gyhoeddi ar 10 Rhagfyr.
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Llywodraeth y DU am ymateb i bryderon Undeb Amaethwyr Cymru.
Llun: Undeb Amaethwyr Cymru