Newyddion S4C

Parc Cenedlaethol Eryri am barhau i ddefnyddio enwau Cymraeg yn unig

13/11/2024

Parc Cenedlaethol Eryri am barhau i ddefnyddio enwau Cymraeg yn unig

Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi penderfynu parhau i ddefnyddio enwau uniaith Cymraeg ar gyfer Eryri ac Y Wyddfa.

Mewn cyfarfod o’r awdurdod ddydd Mercher, fe wnaeth aelodau hefyd bleidleisio o blaid gollwng yr enw ‘Snowdonia’ o logo’r sefydliad.

Yn Nhachwedd 2022, fe benderfynodd yr awdurdod i ddefnyddio enwau uniaith Gymraeg wrth ohebu’n Saesneg, gan beidio â defnyddio enwau ‘Snowdonia’ a ‘Snowdon’ .

Er mwyn monitro effaith y newid dros gyfnod o ddwy flynedd, fe wnaeth yr awdurdod gynnal arolwg o ymwelwyr o gwmpas yr Wyddfa yn ogystal â phobl ar-lein i holi eu barn.

O’r 1,114 o ymwelwyr, roedd 61% o bobl yn ymwybodol o’r enwau Cymraeg. Roedd 31% o ymatebwyr yn credu fod yr enwau yn creu dryswch, gyda 69% yn anghytuno gyda hynny.

Roedd yr adroddiad yn cydnabod fod yna ‘ddryswch sylweddol yn parhau, yn enwedig ymhlith y rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg.’

'Cefnogol'

Dywedodd Ioan Gwilym, Pennaeth Cyfathrebu’r awdurdod: “Be o’n i’n gal allan o’r arolygon yma ydi bod pobol yn eitha cefnogol ar y cyfan. Be ma nhw’n gofyn am ar y cyfan ydi mwy o bethau ar sut i ynganu’r geiriau am fod ganddyn nhw ddim yr hyder i drio nhw’u hunain.

"Mae hynny yn rhywbeth fedrwn ni neud mwy, fel da ni’n symud ymlaen.

“Be da ni’n weld o’r rhan heriau ydi diffyg dealltwriaeth a rhwystr iaith. Mae lot o bobl yn drysu rhwng enw’r parc cenedlaethol ag enw’r mynydd, mae hwnna’n un enw ‘da ni’n weld yn aml.

“Da ni yn gweld weithiau sylwadau negyddol ar y cyfryngau cymdeithasol, da ni wedi gweld o dros y deuddydd dwytha ar ôl yr adroddiadau yma gael eu gwneud.

“Ar y cyfryngau Prydeinig mae ‘na lot o sylwadau ond dwi’n meddwl bod hynny lot am yr oes ddiwylliannol a gwleidyddol da ni’n byw ynddi ar hyn o bryd.” 

Fe wnaeth Mr Gwilym gyflwyno argymhelliad i barhau i ddefnyddio’r enwau Eryri a’r Wyddfa yn unig, ac eithrio rhai enghreifftiau o ddefnydd cyfreithiol a statudol o’r enwau Saesneg.

Fe wnaeth aelodau bleidleisio o blaid y cynnig, a’r cynnig i hepgor yr enw ‘Snowdonia’ o logo’r awdurdod.

Dywedodd y Cynghorydd John Pughe Roberts: “O’r holl e-byst dwi’n cael, dim ond un sydd wedi bod yn negyddol. Ar y cyfan, mae pawb yn gefnogol iawn. Gesh i e-bost o Seland Newydd yn deud bod nhw’n defnyddio’r enwau Maoriaidd yn lle’r enwau Saesneg mewn lot o drefi, felly mae wedi agor allan llawer iawn.

“Mae o wedi bod yn llawer iawn gwell nag oeddwn i’n meddwl, gyda’r papurau newydd Llundeinaidd i gyd wedi cefnogi cant y cant.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.