Newyddion S4C

Dyfodol pedair Swyddfa'r Post yn y fantol yng Nghymru

13/11/2024

Dyfodol pedair Swyddfa'r Post yn y fantol yng Nghymru

Mae dyfodol pedair Swyddfa'r Post yn y fantol yng Nghymru.

Daw hyn wedi i Swyddfa'r Post gyhoeddi y gallai mwy na 100 o swyddfeydd post yn y DU gau wrth i'r cwmni gyhoeddi ei gynllun trawsnewid. 

Cyhoeddodd y cwmni fod dyfodol swyddfeydd post yng Nghaernarfon, Port Talbot, Merthyr Tudful, a Phen-y-bont ar Ogwr yn y fantol yng Nghymru.

Mae'r cynllun wedi ei feirniadu gan yr Aelod Seneddol dros Gaernarfon, Liz Saville Roberts.

"Anghredadwy fod y Swyddfa Bost yn ystyried cau cangen Caernarfon," meddai ar "x".

"Rydym wedi gweld y rhwydwaith yn crebachu’n sylweddol ac mae hyn yn dystiolaeth bellach o’r Swyddfa Bost yn diystyru anghenion ein cymunedau."

Dywedodd Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu bod y ffaith fod y cwmni yn cynnig y cynlluniau wrth i'r ymchwiliad i'r sgandal Horizon barhau yn "anfoesol".

Cafodd mwy na 700 o is-bostfeistri eu cyhuddo ar gam rhwng 1999 a 2015 ar ôl i feddalwedd cyfrifo diffygiol Horizon ddangos fod arian ar goll o'u cyfrifon post.

Mae'r adolygiad strategol, sy'n cael ei arwain gan gadeirydd newydd y cwmni Nigel Railton, yn bwriadu trawsnewid sut y mae'r sefydliad yn gweithredu. 

Mae'r cwmni yn wynebu sawl her, gan gynnwys cystadleuaeth gan weithredwyr fel Evri yn ogystal â llai o bobl yn anfon llythyrau.

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa'r Post:"Rydym yn ystyried nifer o opsiynau er mwyn lleihau ein costau canolog."

Dywedodd Gweinidog Busnes Llywodraeth y DU, Gareth Thomas nad oedd unrhyw benderfyniad terfynol wedi ei gymryd am y cau, a bod y llywodraeth yn disgwyl Swyddfa'r Post i ymgynghori'n llawn gyda phostfeistri ac undebau cyn gwneud penderfyniadau am swyddfeydd unigol.

Ychwanegodd bod y llywodraeth yn bwriadu cyhoeddi Papur Gwyrdd am ddyfodol tymor hir Swyddfa'r Post.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.