Nifer y plant sy'n cael eu bwlio yn yr ysgol 'ar ei lefel uchaf erioed'
Mae nifer y plant sy'n cael eu bwlio yn yr ysgol "ar ei lefel uchaf erioed" gyda mwy nag un o bob tri phlentyn yn "cael eu bwlio."
Rhwng 2021 a 2023, roedd cynnydd o 6% yn nifer y plant oedd yn cael eu bwlio, yn ôl arolwg o dros 130,000 o blant gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Fe wnaeth ysgrifennydd cysgodol iechyd y Ceidwadwyr Gareth Davies fynegi pryderon dros y ffigyrau a disgrifio nhw fel rhai "trallodus."
"Mae'r ffigyrau yn yr arolwg hwn yn uwch na welwyd erioed, sydd yn drallodus iawn," dywedodd.
"Mae iechyd meddwl plant wedi gwaethygu ac mae adroddiadau o fwlio mewn ysgolion wedi cynyddu, felly mae Llywodraeth Cymru wedi methu yn ei dyletswydd, yn anffodus."
Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Addysg, Lynne Neagle derbyn bod bwlio yn parhau i fod yn broblem mewn ysgolion.
Dywedodd y bydd argymhellion gwrth-fwlio yn cael eu cyhoeddi ar ôl yn Nadolig.
"Ni fyddwn i eisiau bod yn blentyn yn eu harddegau heddiw," meddai.
"Mae'r cysylltiad rhwng bwlio ac iechyd meddwl yn un sydd yn cael ei gydnabod gan lawer.
"Mewn achosion difrifol, mae pobl ifanc wedi cymryd bywydau eu hunain oherwydd bod nhw'n cael eu bwlio. Mae hyn yn drasiedi i'r bywyd sydd yn cael ei golli ac i ffrindiau, teulu a chymuned y person ifanc."
'Byd llawn anobaith'
Fe wnaeth Cefin Campbell AS, ysgrifennydd cysgodol Plaid Cymru dros addysg ddweud bod ganddo bryderon am dlodi a chosbau am beidio gwisgo'r wisg ysgol gywir.
Dywedodd bod costau uchel wisg ysgol yn gallu arwain at straen a bwlio a bod cosbau fel gorfodi plant i aros ar ôl ysgol dros beidio gwisgo'r wisg gywir yn bryder.
Rhybuddiodd AS Llafur Carolyn Thomas am ffonau symudol a'u heffaith ar iechyd meddwl pobl ifanc.
Cyfeiriodd at ddeiseb i wahardd ffonau symudol i blant mewn ysgolion.
"Maen nhw'n gallu cael eu defnyddio i fanipiwleiddio a rheoli, danfon pobl ifanc i fyd ynysig llawn anobaith a gwneud iddyn nhw deimlo bod nhw methu dianc na gofyn am gymorth."
Ychwanegodd yr Aelod Seneddol annibynnol, Rhys ab Owen bod yr effeithiau ar blant sydd yn dod o gefndiroedd ethnig amrywiol hefyd yn bryder.
"Mae hwn yn fater sydd yn effeithio ar ddisgyblion yn wahanol," meddai.
"Yng Nghaerdydd, mae tua un traean o ddisgyblion yn dod i gefndir ethnig amrywiol.
"Doeddwn i methu credu wrth ddarllen arolwg o 2020, bod 61.5% o ddisgyblion wedi mynegi eu bod nhw wedi cael eu hystradebu dros liw croen, crefydd a chenedlaetholdeb."