Eisteddfod Genedlaethol 2026: Penodi John Davies yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith
John Davies fydd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro 2026.
Cyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mercher y bydd Mr Davies yn arwain y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y brifwyl yn ardal Llantwd.
Mae'n gyn Arweinydd Cyngor Sir Benfro ac yn gyn Gadeirydd Bwrdd Cymdeithas y Sioe Fawr yn Llanelwedd, sydd wedi gwasanaethu ar amryw o gyrff a sefydliadau cenedlaethol.
Roedd hefyd yn flaenllaw wrth ddenu'r Eisteddfod i Lantwd.
Y tro diwethaf i'r Eisteddfod gael ei chynnal yn Sir Benfro oedd yn 2002 yn Nhyddewi.
Dywedodd yr Eisteddfod fod ganddo "ddealltwriaeth gref o’r ardal a’i phobl" a'i bod yn awyddus i Eisteddfod 2026 bontio rhwng y tair ardal gan annog trigolion cymunedau ar draws y dalgylch i ddod ynghyd dros y cyfnod nesaf wrth baratoi ar gyfer yr ŵyl.
Fydd y brifwyl yn cwmpasu tair sir yng ngorllewin Cymru yn 2026.
Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol ei bod yn edrych ymlaen i gyd-weithio gyda John a gweddill y pwyllgor.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at gydweithio gyda John a’r tîm dros y cyfnod nesaf wrth i ni baratoi am Eisteddfod 2026," meddai.
“Mae hi bron yn chwarter canrif ers cynnal yr Eisteddfod yn Sir Benfro, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddychwelyd i’r ardal. Mae 2026 yn flwyddyn bwysig wrth i ni ddathlu 850 mlynedd ers cynnal yr Eisteddfod gyntaf yng Nghastell Aberteifi nol yn 1176.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithredu mewn ffordd newydd mewn dalgylch sy’n cynnwys rhannau o ddwy sir arall, sy’n gyfle i ni gael cydweithio unwaith eto gyda thrigolion Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.”
Swyddogion eraill
Mae Tegryn Jones wedi’i ethol yn Is-gadeirydd Strategol Eisteddfod.
Dywedodd yr Eisteddfod fod ganddo’r profiad o weithio’n rhanbarthol ar draws y tair sir sy’n rhan o’r dalgylch drwy’i waith fel Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.
Carys Ifan fydd Is-gadeirydd Diwylliannol y brifwyl. Yn wreiddiol o Landudoch, mae Carys yn byw yn Llangrannog ac yn gweithio yn Sir Gâr, ac felly’n cynrychioli’r tri rhanbarth sy’n rhan o’r Eisteddfod yn 2026.
Mae hi'n Gyfarwyddwr ar Ganolfan Egin ac wedi gweithio ar nifer fawr o brosiectau diwylliannol o bob math, meddai'r Eisteddfod
Cris Tomos sy’n gyfrifol am Gronfa Leol Eisteddfod 2026 ac wedi gweithio yn y sector datblygu cymunedol ers dros 30 mlynedd.
Ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith yw Non Davies, sydd yn Rheolwr Corfforaethol dros Ddiwylliant a’r Gymraeg gyda Chyngor Sir Ceredigion, ac yn gofalu am Theatr Felinfach, Gwasanaeth Cerdd y Sir, Amgueddfa Ceredigion a CERED: Menter Iaith Ceredigion.
Bydd Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro yn cael ei chynnal yn Llantwd rhwng 1 a 8 Awst 2026.