Sesiwn Fawr Dolgellau yn cael ei chynnal ar-lein eleni
Fe fydd Sesiwn Fawr Dolgellau neu ‘Sesiwn Fawr Digi-dol’ yn cychwyn ddydd Sadwrn.
Mae'r trefnwyr wedi penderfynu cynnal gŵyl “wahanol ond arloesol" yn 2021, gyda'r digwyddiad rhithiol yn cael ei chynnal ar benwythnos arferol yr ŵyl werin.
Mae’r digwyddiad yn cael ei rhyddhau yn rhad ac am ddim drwy sianel AM y Sesiwn.
Fe fydd yr ŵyl yn cwmpasu perfformiadau byw gan artistiaid o Gymru a thu hwnt, gan gynnwys VRï, Glain Rhys ac I Fight Lions.
Dywedodd Guto Lewys Dafydd, Cadeirydd Pwyllgor Sesiwn Fawr Dolgellau: “Mae hi wedi bod yn gyfnod ansicr i ni fel trefnwyr gŵyl dorfol a phoblogaidd.
"Ar ôl gorfod gohirio llynedd y gobaith oedd gallu gwahodd pawb yn ôl i Ddolgellau i ddathlu eleni, ond mae’n rhaid i ni warchod iechyd a lles y trigolion lleol yn ogystal â mynychwyr yr ŵyl a’n gwirfoddolwyr.
“Felly cynnal digwyddiad rhithiol fyddwn ni unwaith eto eleni, a dangos cefnogaeth i’n hartistiaid.
“Cefnogwch y Sesiwn a’i hartistiaid fel unrhyw flwyddyn arall, a gobeithiwn bydd modd i ni drefnu a chynnal dathliad o 30 mlynedd o’r Sesiwn Fawr yn 2022.”
Llun: Sesiwn Fawr Dolgellau