Newyddion S4C

Dioddefwyr John Smyth yn galw ar fwy o uwch-esgobion i ymddiswyddo

13/11/2024
justin welby

Mae rhai o ddioddefwyr y bargyfreithiwr John Smyth wedi galw ar fwy o uwch-esgobion yr Eglwys yn Lloegr i ymddiswyddo. 

Fe gafodd adolygiad annibynnol Makin ei gyhoeddi ar 7 Tachwedd, gan ddatgelu bod Smyth wedi cam-drin hyd at 130 o fechgyn mewn tair gwlad.

Roedd John Smyth yn fargyfreithiwr oedd yn gysylltiedig ag Eglwys Loegr.

Daw'r galwadau wedi i Archesgob Caergaint Justin Welby ymddiswyddo ar ôl yr adolygiad damniol.

Yn ôl yr adroddiad, roedd Smyth wedi cynnal ymosodiadau rhywiol, corfforol, seicolegol ac ysbrydol "trawmatig" mewn gwersylloedd haf Cristnogol yn yr 1980au a'r 1990au. Fe wnaeth hyn tra'n gweithio i'r elusen Gristnogol Iwerne Trust.

Daeth yr adroddiad i'r casgliad y gallai Smyth fod wedi wynebu cyfiawnder pe bai Justin Welby wedi rhoi gwybod i'r heddlu yn swyddogol yn 2013.

Bu farw John Smyth yn Ne Affrica yn 2018 heb wynebu achos llys.

'Atebolrwydd'

Mae goroeswyr Mr Smyth wedi croesawu ymddiswyddiad Mr Welby. Ond maent yn galw am ragor o ymddiswyddiadau o fewn yr eglwys gan y rhai a allai fod yn gyfrifol am beidio rhoi gwybod am y trais. 

Dywedodd Mark Stibbe, cyn-ficer ac awdur, ei fod yn meddwl fod Mr Welby wedi "gwneud y peth iawn" a'i fod ef a chyd-oroeswyr wedi bod yn galw am hyn ers blynyddoedd. 

"Dwi'n cymeradwyo Justin Welby am ymddiswyddo. Ond dwi'n meddwl mai'r hyn y mae'r grŵp o oroeswyr ei eisiau ydy mwy o ymddiswyddiadau oherwydd mae hynny yn golygu mwy o atebolrwydd, pobl yn cymryd cyfrifoldeb am fod yn dawel pan ddylent fod wedi siarad," meddai.

"Os oes yna uwch-esgobion sydd wedi torri'r gyfraith, yna dylen nhw fod yn atebol am hynny."

Ychwanegodd goroeswr arall, Richard Gittins, y dylai'r "sylw droi bellach" at yr esgobion “a gadwodd y straeon iddyn nhw eu hunain” .

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.