Newyddion S4C

Adroddiadau na fydd Sue Gray yn cymryd swydd y cenhedloedd a'r rhanbarthau

Sue Gray

Ar ôl cyhoeddi mai Sue Gray fyddai Cennad y Cenhedloedd a Rhanbarthau, mae'n ymddangos fod Syr Keir Starmer ar fin tynnu ei gynnig yn ôl. 

Yn ôl adroddiadau yn y cyfryngau, fydd Sue Gray ddim yn ymgymryd â'r rôl newydd hon.  

Roedd disgwyl iddi ddechrau yn y swydd ar ôl iddi ymddiswyddo fis Hydref fel pennaeth staff Downing Street.  

Roedd adroddiadau bod tensiynau yn Rhif 10 oherwydd Ms Gray, ac yn benodol rhyngddi hi a phrif ymgynghorydd Syr Keir Starmer, Morgan McSweeney. 

Mr Mc Sweeney gafodd ei benodi'n bennaeth staff yn ei lle.

Yn ôl adroddiadau, roedd Ms Gray yn cymryd seibiant cyn ymgymryd â'i swydd newydd, ond mae'n ymddangos bellach fod Syr Keir Starmer yn debygol o dynnu'r cynnig swydd yn ôl oherwydd pryderon ynglŷn ag union ddyletswyddau'r rôl newydd. 

Mae rhai cyfryngau yn dweud fod Sue Gray eisoes wedi gwrthod y swydd. 

'Rôl allweddol'

Roedd Downing Street wedi dweud yn flaenorol bod swydd y cennad yn "rôl allweddol wrth gryfhau'r berthynas rhwng y cenhedloedd a'r rhanbarthau." 

Byddai hi wedi bod yn cydweithio â llywodraethau datganoledig Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon a meiri yn Lloegr.  

Ond doedd hi ddim yn bresennol yng nghyfarfod cyntaf Cyngor y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau a gafodd ei gynnal yn yr Alban fis Hydref. 

Wrth siarad cyn myd i'r cyfarfod cyntaf hwnnw, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan: "Mae’r Cyngor newydd hwn – Cyngor y Gwledydd a’r Rhanbarthau – yn enghraifft o ailosod y berthynas â Llywodraeth y Deyrnas Unedig. 

"Dim ond drwy gydweithio, a hynny yng ngwir ystyr y gair, y gallwn gyflawni dros Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae’r Cyngor yn cynnig cyfle gwirioneddol i weithio fel partneriaid ar y brif genhadaeth sef twf economaidd."

Cafodd y penderfyniad gwreiddiol i roi swydd newydd i Sue Gray ei feirniadu gan Blaid Cymru. Dywedodd yr arweinydd Rhun ap Iorwerth fod Syr Keir Starmer yn "dipyn o broblem" i Brif Weinidog Cymru, Eluned Morgan.   

“A 'sgwn i sut mae Llafur yng Nghymru, Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Phrif Weinidog Cymru yn teimlo?

“Does ryfedd nad yw Eluned Morgan eisiau crybwyll Keir Starmer yn y Senedd. Mae'n dipyn o broblem iddi, ac yn amlwg mae Cymru yn broblem iddo fe," meddai ar y pryd.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.