Newyddion S4C

Cyhuddo pedwar bachgen yn eu harddegau o geisio llofruddio

12/11/2024
Ffordd Nash, Casnewydd

Mae pedwar bachgen yn eu harddegau wedi cael eu cyhuddo o geisio llofruddio dyn ifanc 18 oed.

Cafodd y bechgyn, dau yn 16 oed a'r ddau arall yn 17 oed eu harestio ar amheuaeth o glwyfo yn fwriadol cyn i'r cyhuddiad newid i geisio llofruddio.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i Ffordd Nash yng Nghasnewydd ar 7 Tachwedd wedi adroddiadau am ymosodiad yno.

Cafodd y dyn ifanc 18 oed driniaeth mewn ysbyty cyn cael ei ryddhau.

Mae'r pedwar bachgen wedi ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd, a bellach wedi eu cadw yn y ddalfa.

Mae Uwcharolygydd Heddlu Gwent, Jason White wedi galw ar bobl i beidio dyfalu am yr achos.

"Hoffwn atgoffa pobl o'u cyfrifoldebau er mwyn osgoi amharu ar yr ymchwiliad hwn," meddai.

"Mae'n hollbwysig bod pobl yn ystyried eu hiaith wrth adael sylwadau ar-lein am y rhai sydd o dan amheuaeth."

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw drwy ddyfynnu'r cyfeirnod 2400371556.

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.