Merch yn cael ei lladd ar draffordd wrth ffoi o gerbyd yr heddlu
Mae merch 17 oed wedi marw ar ôl iddi ffoi o gar yr heddlu, cyn cael ei tharo gan gar ar draffordd.
Roedd y ferch yn cael ei chludo i'r ddalfa, pan ddaeth cerbyd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf i stop tra'n teithio ar yr M5 ger Taunton.
Fe aeth hi allan o'r cerbyd a chael ei tharo gan gar toc ar ôl 23:00 nos Lun.
Cyrhaeddodd parafeddygon o fewn munudau, ond bu farw'r ferch yn y fan a'r lle.
Mae heddlu Avon a Gwlad yr Haf wedi cyfeirio eu hunain at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC), sydd bellach yn cynnal ymchwiliad.
Dywedodd y Ditectif Brifarolygydd Rachel Shields: "Rydym yn meddwl yn bennaf am deulu'r ferch.
"Dros nos, rydym wedi diweddaru ei pherthnasau agosaf, gan nodi'r hyn ddigwyddodd."
Ychwanegodd Ms Shields: "Rydym yn credu ei bod yn bwysig bod mor dryloyw â phosib yn ystod y cyfnod cynnar hwn.
"Rydym yn cydnabod hefyd yr effaith ar ein swyddogion ac aelodau o'r cyhoedd a welodd yr hyn ddigwyddodd."
Cafodd y draffordd ei chau i'r ddau gyfeiriad nos Lun, wrth i'r ymchwiliad barhau.