Newyddion S4C

Dewis rheithgor yn achos dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth Noswyl Nadolig

12/11/2024
Llofruddiaeth Llandaf

Mae aelodau'r rheithgor wedi eu dewis yn achos dyn 24 oed sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio dyn arall Noswyl Nadolig y llynedd.

Mae Dylan Thomas wedi ei gyhuddo o lofruddio William Bush, 23 oed, a fu farw ar 24 Rhagfyr yn ardal Llandaf yn y brifddinas.

Mewn gwrandawiad yr wythnos diwethaf, fe blediodd Dylan Thomas yn euog i ddynladdiad ond mae'n gwadu'r cyhuddiad o lofruddiaeth.

Fe ymddangosodd yn Llys y Goron Caerdydd trwy gyswllt fideo ddydd Mawrth, wrth i 12 o aelodau o'r rheithgor dyngu llw. 

Fe ohiriodd y barnwr Mrs Justice Steyn KC yr achos tan ddydd Mercher.

Mae disgwyl i'r achos bara am bythefnos, meddai.

'Doniol a gofalgar'

Fe gafodd Mr Bush ei ddarganfod wedi ei anafu mewn cartref ar Heol y Capel am tua 11:30,  Noswyl Nadolig.

Mewn datganiad ym mis Ionawr, dywedodd ei deulu: "Cafodd ein hannwyl Will ei gymryd oddi wrthym mewn ffordd mor greulon ac annisgrifiadwy.

"Roedd Will yn fab, brawd a chariad mor ffyddlon, doniol a gofalgar.

"Rydym wedi ein llorio'n llwyr."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.