Newyddion S4C

CPD Tref Merthyr i ymuno â chynghrair bêl-droed Cymru?

12/11/2024
CPD Tref Merthyr

Mae Clwb Pêl-droed Tref Merthyr wedi cadarnhau eu bod wedi cwrdd â swyddogion Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) i drafod y posibilrwydd o ymuno â’r gynghrair bêl-droed yng Nghymru.

Daeth adroddiadau fore Mawrth fod y Gymdeithas wedi gofyn i’r clwb, sydd yn berchen i'r gymuned, i ymuno â’r system yng Nghymru.

Mae’r clwb ar frig Uwch Adran De Lloegr ar hyn o bryd, sydd yn seithfed haen pêl-droed Lloegr.

Wrth ymateb i’r adroddiadau ddydd Mawrth, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd y clwb “na fyddai unrhyw benderfyniad fyth yn cael ei wneud heb ymgynghori’n llawn gyda pherchnogion y clwb”.

Mae Merthyr, sydd yn chwarae ym Mharc Penydarren, yn un o bum clwb o Gymru sydd yn chwarae dros y ffin.

Mae Caerdydd, Abertawe, Wrecsam a Chasnewydd yn chwarae yng nghynghreiriau’r EFL ond mae Merthyr yn chwarae y tu allan i’r gynghrair broffesiynol.

Dros y blynyddoedd, mae’r clwb a’u cefnogwyr wedi mynegi eu dymuniad i barhau i gystadlu yn y system yn Lloegr sawl tro.

Ond wrth i’r Gymdeithas gynllunio i ail-strwythuro’r cynghreiriau yng Nghymru, dyma’r tro cyntaf iddynt gynnal trafodaethau swyddogol gyda’r clwb ynglŷn â’r posibilrwydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Clwb Pêl-droed Merthyr: “Hyd yma, mae CPDC wedi amlinellu eu bwriad ynglŷn ag ailstrwythuro Cynghreiriau Cymru fel rhan o ‘Brosiect Cymru’.

“Fe all y bwrdd gadarnhau na fyddai unrhyw benderfyniad fyth yn cael ei wneud heb ddealltwriaeth ac ymgynghoriad llawn gyda pherchnogion y clwb, yn unol â’n cyfansoddiad cymdeithasol fel clwb dros y gymuned.”

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Chymdeithas Bêl-droed Cymru am ymateb.

Llun: X/MerthyrTownFC

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.