Cipolwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma ein prif benawdau ar fore dydd Sadwrn, 17 Gorffennaf.
Cymru yn symud i Rybudd Lefel 1
Mae rhagor o gyfyngiadau Covid-19 wedi eu llacio yng Nghymru. O ddydd Sadwrn, bydd gan bobl fwy o ryddid i gwrdd mewn cartrefi yn ogystal ac mewn mannau cyhoeddus. Mae’r llacio yn rhan o newid graddol, gyda chynlluniau i ddod â rhagor o gyfyngiadau i ben ar 7 Awst. Wrth i’r newid ddod i rym, mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio pobl i gofio nad yw’r “pandemig ar ben” wrth i nifer yr achosion o’r amrywiolyn Delta gynyddu yng Nghymru.
Nifer y meirw yn yr Almaen wedi cynyddu ar ôl llifogydd 'trychinebus'
Mae dros 100 o bobl wedi marw a channoedd o bobl ar goll ar ôl i law trwm achosi llifogydd difrifol yn Yr Almaen a Gwlad Belg. Mae swyddogion yn nhalaith Rhineland-Palatinate yn yr Almaen wedi cadarnhau fod 93 o bobl wedi marw yno, tra bod 43 wedi marw yn nhalaith Gogledd Rhine-Westphalia. Fe allai nifer y meirw godi, yn ôl The Guardian, wrth i’r chwilio am y rhai sydd ar goll barhau.
Teithwyr o Ffrainc i orfod hunan-ynysu am 10 diwrnod
Mae’r diwydiant teithio wedi beirniadu penderfyniad Llywodraeth y DU i orfodi teithwyr o Gymru a Lloegr sy’n dychwelyd o Ffrainc i hunan-ynysu am 10 diwrnod. O ddydd Llun ymlaen, ni fydd yn rhaid i deithwyr sydd wedi eu brechu yn llawn hunan-ynysu ar ôl dychwelyd o wledydd sydd ar y rhestr oren, fel Sbaen, Portiwgal a Groeg.Roedd Ffrainc i fod yn rhan o’r cynllun, ond mewn tro pedol nos Wener, mae hi bellach wedi ei heithrio o’r cyngor newydd.
Tymheredd posib o 29°C yng Nghymru ddydd Sadwrn
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi y bydd rhan fwyaf o Gymru yn gweld cyfnodau poeth a sych dros y penwythnos. Fe all rhai ardaloedd gyrraedd tymereddau mor uchel â’r ugeiniau neu dridegau. Fe fydd yna ddigon o heulwen ac awyr las i’w fwynhau ddydd Sadwrn, er mae’n bosib y bydd yn gymylog ar brydiau ar hyd arfordir y gogledd.
Annog ymwelwyr i ‘feddwl ddwywaith’ cyn ymweld ag unedau brys
Mae bwrdd iechyd y gogledd wedi annog pobl i “feddwl ddwywaith” cyn ffonio 999 ac ymweld ag adrannau brys os nad yw’r achos yn peryglu bywyd. Daw’r galwadau gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, wrth iddynt rybuddio am straen ychwanegol fydd ar weithwyr ysbytai dros yr haf eleni wrth i fwy o bobl ymweld â chyrchfannau gwyliau yng Nghymru yn sgil Covid-19.