Cymorth i farw: Beth sydd yn y bil a phwy sy'n gymwys?
Cymorth i farw: Beth sydd yn y bil a phwy sy'n gymwys?
Mae'r cynnig i roi'r hawl i bobol sydd â salwch terfynol yng Nghymru a Lloegr ddod â'u bywyd i ben wedi cael ei drafod ers misoedd.
Nawr, mae'r Bil Cymorth i Farw wedi cael ei gyhoeddi'n llawn, gan fanylu ar y broses a'r mesurau diogelu sy'n cael eu cynnig.
Ond beth yn union yw'r manylion a phwy allai gymhwyso?
Beth yw cymorth i farw ?
Yn ôl ymgyrchwyr sydd eisiau gweld newid, mae cymorth i farw yn caniatáu i berson sydd â chyflwr nad oes modd gwella ohono i ddewis pryd y maent yn dymuno marw, os yw eu dioddefaint yn annioddefol.
Maen nhw'n dadlau bod gan bobol sy'n marw'r hawl i ddewis amodau eu marwolaeth.
Ond mae grwpiau eraill yn ymgyrchu yn erbyn hynny, gan ddadlau mai dynladdiad gyda chymorth yw hynny. Maen nhw o'r farn y dylid rhoi'r pwyslais ar hybu mwy o gymorth diwedd oes, yn hytrach na newid unrhyw gyfraith.
Beth yw'r gyfraith bresennol ?
Mae cynorthwyo rhywun i farw wedi ei wahardd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gydag uchafswm o 14 blynedd mewn carchar.
Dyw rhoi cymorth i farw ddim yn drosedd swyddogol yn yr Alban, ond mae cynorthwyo rhywun i farw yn golygu y gallai person gael ei gyhuddo o lofruddiaeth.
Gallai unrhyw un sy'n helpu rhywun i deithio dramor i farw mewn gwlad lle mae cymorth i farw yn gyfreithlon, fel y Swistir a Chanada, gael eu herlyn.
Pwy fydd yn gymwys i gael cymorth i farw?
Bydd oedolion sydd yn dioddef o salwch terfynol y disgwylir iddynt farw o fewn chwe mis yn gymwys ar gyfer cael cymorth i farw.
Mae'n rhaid i’r person fod yn ei iawn bwyll i wneud penderfyniad am ddod â'u bywyd i ben. Rhaid iddyn nhw fynegi dymuniad "clir, sefydlog a gwybodus" a hynny heb orfodaeth na phwysau. Nid yw'r Bil yn cynnwys anabledd a salwch meddwl fel meini prawf.
Os caiff y Bil ei basio, dim ond trigolion parhaol Cymru a Lloegr sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu am o leiaf 12 mis fydd yn gymwys.
Beth fydd y broses?
Mae'n rhaid i'r person wneud dau ddatganiad ar wahân o'i ddymuniadau, ac mae'n rhaid eu llofnodi a'u tystio. Gallant newid eu meddwl unrhyw bryd.
Mae'n rhaid i ddau feddyg annibynnol fod yn fodlon bod y person yn gymwys, ac os oes angen, ymgynghori ag arbenigwyr ynglŷn â gallu meddyliol yr unigolyn.
Yna bydd barnwr yr uchel lys yn gwrando ar y cais. Ni all y farwolaeth ddigwydd am 14 diwrnod arall oni bai bod y person ar fin marw o salwch.
Mae'n rhaid i'r claf gymryd y feddyginiaeth sy'n diweddu ei oes ei hun. Ni all meddyg na neb arall ei roi.
A fydd mesurau diogelu o dan y Bil?
O dan y ddeddfwriaeth arfaethedig, bydd yn anghyfreithlon i orfodi neu roi pwysau ar rywun i ddewis cymorth i farw. Gallai unrhyw un sy'n gwneud hynny wynebu hyd at 14 mlynedd yn y carchar.
Pwy sy'n cynnig y Bil?
Mae'r Bil wedi cael ei gynnig gan AS Llafur Kim Leadbeater.
Mae disgwyl i ddadl a phleidlais gyntaf gael eu cynnal ar 29 Dachwedd. Dim ond i Gymru a Lloegr y byddai’r Bil yn berthnasol.
Os bydd y Bil yn pasio’r cam cyntaf yn Nhŷ’r Cyffredin, bydd yn mynd i gyfnod pwyllgor lle gall ASau gyflwyno gwelliannau.
Yna bydd yn wynebu craffu pellach a phleidleisiau yn Nhŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.
Pryd fyddai unrhyw gyfraith newydd yn dod i rym?
Mae Ms Leadbeater wedi awgrymu na fyddai deddf newydd yn dod i rym am ddwy i dair blynedd arall.
Llun: Lucy North / PA