Newyddion S4C

Gary Lineker i adael ei rôl fel cyflwynydd Match of The Day

12/11/2024
Gary Lineker yn cyflwyno ar y BBC

Mae'r BBC wedi cadarnhau y bydd Gary Lineker yn gadael ei rôl fel cyflwynydd rhaglen bêl-droed Match of The Day ar ddiwedd y tymor.  

Fe fydd yn parhau i gyflwyno gemau Cwpan FA Lloegr ar y sianel ar gyfer tymor 2025/26 yn ogystal â Chwpan y Byd yn 2026.

Dywedodd Lineker: "Dwi'n hapus iawn i barhau gyda fy nghysylltiad hir â BBC Sport a hoffwn ddiolch i bob un sydd wedi gallu sicrhau bod hyn yn digwydd."

Ychwanegodd Cyfarwyddwr BBC Sport Alex Kay-Kelski: "Mae Gary yn un o'r cyflwynwyr gorau yn y byd. Rydym ni yn falch iawn y bydd yn arwain ein darlledu ni o Gwpan y Byd 2026 ac yn parhau i arwain ein darllediad byw o Gwpan FA Lloegr.

"Ar ôl 25 tymor, mae Gary yn camu lawr o Match of The Day. Hoffem ddiolch iddo am bopeth y mae wedi ei wneud ar gyfer y rhaglen, sy'n parhau i ddenu miliynau o wylwyr yn wythnosol."

Y cyn bêl-droediwr 63 oed yw un o gyflwynwyr mwyaf adnabyddus y gorfforaeth, ac mae'n ennill y cyflog mwyaf ar sail rhestr gyflogau'r BBC. 

Mae e'n ennill £1.3 miliwn y flwyddyn. 

Ond mae'r cyflwynydd wedi bod mewn dyfroedd dyfnion ar sawl achlysur yn y BBC oherwydd ei sylwadau yn mynegi barn ar gyfryngau cymdeithasol.


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.