Y Tafod Glas: Codi cyfyngiadau ar ddwy fferm ym Môn a Gwynedd
Mae cyfyngiadau bellach wedi eu codi ar ddwy fferm ym Môn a Gwynedd lle roedd achosion o’r Tafod Glas.
Ym mis Medi, cafodd y Tafod Glas seroteip 3 (BTV-3) ei ddarganfod mewn tair dafad a gafodd eu symud i Wynedd o ddwyrain Lloegr.
Fis Hydref, cafodd achos arall ei gofnodi ar fferm ar Ynys Môn, lle cafodd yr haint ei ddarganfod mewn anifail a gafodd ei symud o ddwyrain Lloegr.
Cafodd cyfyngiadau eu cyflwyno i reoli’r clefyd ar y ffermydd hynny, gwrth i ymchwiliadau gael eu cynnal.
Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd Huw Irranca-Davies AS, Ysgrifennydd y Cabinet Llywodraeth Cymru dros Faterion Gwledig, nad oedd achosion pellach wedi eu darganfod.
“Cafodd cyfnod o wyliadwriaeth swyddogol ei sefydlu yng Ngwynedd ac Ynys Môn yn sgil symud dau anifail oedd wedi'u heintio â BTV-3 i'r ardal. Mae’n bleser cael dweud bod y cyfnod wedi dod i ben,” meddai.
“Cafodd yr anifeiliaid heintiedig hyn eu darganfod yn y lle cyntaf gan Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) drwy olrhain symudiadau anifeiliaid risg uchel. Mae APHA wedi bod yn gweithio'n ddiflino i helpu i gadw Cymru'n rhydd o'r Tafod Glas.
“Ni wnaeth y cyfnod o wyliadwriaeth ddatgelu rhagor o achosion o'r haint, ac felly gallaf gadarnhau bod cyfyngiadau'r Tafod Glas ar y ddwy fferm wedi'u codi.”
'Twf posibl'
Wrth rybuddio am y posibilrwydd o ragor o achosion yn y flwyddyn newydd, apeliodd y Dirprwy Brif Weinidog ar ffermwyr i brynu anifeiliaid o lefydd 'cyfrifol a diogel'.
“Roeddem yn lwcus mai achosion y bu "bron iddynt ddigwydd" oeddynt ac nad yw'r clefyd wedi lledaenu ymhellach yng Nghymru.
“Fodd bynnag, ni allwn orffwys ar ein rhwyfau mewn cysylltiad â chlefydau anifeiliaid. Rhaid i mi bwysleisio eto mor bwysig yw prynu da byw o le cyfrifol a diogel er mwyn cadw'r Tafod Glas allan o Gymru.
“Er na allwn ragweld beth sydd gan y dyfodol i'w gynnig i ni, wrth feddwl am wanwyn nesaf, rhaid bod yn barod i wynebu twf posibl yn y Tafod Glas.
Ychwanegodd y bydd y llywodraeth yn parhau i gyd-weithio ag arbenigwyr milfeddygol er mwyn cadw golwg ar y clefyd.