Dynes o Wynedd wedi marw ar ôl i lawdriniaeth colli pwysau 'fynd o'i le' yn Nhwrci
Clywodd cwest fod dynes 54 oed o Wynedd wedi marw ar ôl i arteri rwygo yn ystod llawdriniaeth "aeth o'i le" yn Nhwrci.
Yn fam i ddau o blant, roedd Janet Savage o Fangor eisiau colli tair stôn.
Penderfynodd wneud hynny trwy lawdriniaeth fyddai'n arwain at golli pwysau.
Clywodd y cwest yng Nghaernarfon i Ms Savage a oedd yn arholwr gyrru, gysylltu â chwmni twristiaeth iechyd ym Mhrydain oedd wedi cynnig pecyn teithio oedd yn cynnwys hediadau a'r llawdriniaeth.
Cost y pecyn teithio oedd £2,750 a chafodd y driniaeth ei chynnal ar 5 Awst 2023.
Wrth gofnodi rheithfarn naratif, dywedodd uwch grwner gogledd-orllewin Cymru Kate Robertson bod Mrs Savage wedi marw ar ôl colli gwaed oherwydd anaf i arteri yn ei stumog.
Ychwanegodd bod meddygon wedi ceisio trwsio'r arteri yn ystod y llawdriniaeth yn ysbyty preifat Rich yn Antalya, Twrci.
Ond aflwyddiannus oedd yr ymdrechion hynny.
“Cafodd Janet ataliad ar y galon. Bu farw'r diwrnod canlynol,"meddai Mrs Robertson.
Bu farw Janet Savage mewn uned gofal dwys.
Dywedodd Alison Ergun, gweinyddwr cleientiaid i’r cwmni twristiaeth iechyd, fod Mrs Savage wedi nodi mewn un neges iddi ei bod hi “ychydig yn bryderus” am y llawdriniaeth.
Llun: WhatClinic