Cyn-berchennog parc trampolîn yn osgoi carchar
Mae cyn-berchennog parc trampolîn yng Nghaerdydd wedi osgoi carchar am dorri rheolau hylendid bwyd, wedi iddo dderbyn dedfryd flaenorol o garchar wedi’i ohirio am dorri deddfau diogelwch.
Fe wnaeth Philip Booth, 68, dderbyn dedfryd o 12 mis o garchar, wedi’i gohirio am 10 mis, ym mis Mehefin 2023.
Roedd hynny ar ôl iddo ddangos “diystyriaeth lwyr” tuag at ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch ar ôl i blant ddioddef anafiadau yn Supajump ym Mae Caerdydd.
Roedd o flaen llys eto ddydd Mercher am dorri rheolau hylendid bwyd.
Roedd archwiliad ym mis Mawrth 2024 wedi datgelu nifer o fethiannau yn yr adeilad, gan gynnwys llwydni du y tu mewn i ficrodonau, peiriannau coffi, peiriannau slwtsh, peiriannau iâ a’r ardal hufen iâ.
Fe wnaeth yr arolygwyr ganfod arferion gwael o ran trin bwyd, a bod offer yn cael ei ddefnyddio’n gyfnewidiol ar gyfer bwydydd amrwd a bwydydd parod i’w bwyta.
Nid oedd cyfleusterau golchi dwylo addas mewn rhai o’r ardaloedd paratoi chwaith, ac roedd drws wedi torri a sbwriel yn cael ei gadw gerllaw.
Roedd y troseddau hylendid bwyd diweddaraf yn golygu bod Booth wedi mynd yn groes i’w ddedfryd ohiriedig o garchar.
Fodd bynnag, dyfarnodd y barnwr yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher nad oedd y troseddau “yn debyg o ran cymeriad na natur”, ac y byddai ei anfon i garchar yn “anghyfiawn” yn yr achos hwn.
Mewn archwiliad pellach ym mis Awst 2024, dyfarnwyd Sgôr Hylendid Bwyd o 3 – Boddhaol yn Gyffredinol – i’r busnes.
'Difrifol'
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod cwmni Supertramp Ltd, yn masnachu fel Supajump, wedi’i ddiddymu’n wirfoddol gan Booth ym mis Gorffennaf 2025.
Dywedodd cynrychiolydd cyfreithiol Booth ei fod yn ddi-waith ar hyn o bryd, yn derbyn Credyd Cynhwysol, ac yn byw yng nghartref ei rieni, lle mae’n gweithredu fel gofalwr i’r ddau, sydd â dementia.
Clywodd y llys ei fod yn ennill £600 y mis, gan gynnwys ei lwfans fel gofalwr.
Cafodd Booth ddirwy o £900, gorchmynnwyd iddo dalu £500 mewn costau, a bydd rhaid iddo dalu £40 y mis nes bod y swm wedi’i setlo’n llawn.
Dywedodd y Cynghorydd Norma Mackie, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Rheoleiddio yng Nghyngor Caerdydd, fod “diogelwch bwyd yn hanfodol i amddiffyn y cyhoedd”.
“Roedd yr achos hwn yn cynnwys rhestr hir o fethiannau hylendid difrifol dros sawl arolygiad.
“Er bod gwelliannau wedi’u gwneud yn y pen draw, rhaid i fusnesau bob amser fodloni safonau cyfreithiol, yn enwedig y rhai sy’n darparu ar gyfer plant a theuluoedd.
“Byddwn yn parhau i gymryd camau priodol, gan gynnwys gorfodi ffurfiol, pryd bynnag y bydd busnesau’n methu â chydymffurfio â chyfraith hylendid bwyd.”
