Iran yn dweud na fydd protestwyr bellach yn cael eu dienyddio

Abbas Araghchi

Mae Gweinidog Tramor Iran, Abbas Araghchi, wedi dweud na fydd Tehran bellach yn dienyddio protestwyr sy’n gwrthwynebu llywodraeth y wlad.

Daw ei sylwadau ar ôl i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, hefyd ddweud ei fod wedi derbyn sicrwydd na fydd protestwyr yn cael eu lladd na’u dienyddio o hyn ymlaen.

Roedd Twrnai Cyffredinol Iran, Mohammad Movahedi Azad, wedi dweud ddydd Sadwrn y byddai unrhyw un sy’n protestio yn “elyn i Dduw”, trosedd sy’n cario’r gosb eithaf.

Ond mewn cyfweliad â gwasanaeth newyddion Fox News ddydd Mercher, dywedodd Abbas Araghchi (uchod) nad oedd “cynllun o gwbl i grogi” pan ofynnwyd iddo a oeddent yn bwriadu dienyddio protestwyr.

Ddydd Mercher dywedodd Donald Trump ei fod wedi siarad â “ffynonellau pwysig iawn ar yr ochr arall”.

“Rydyn ni’n mynd i wylio beth yw’r broses,” meddai, cyn nodi bod gweinyddiaeth yr Unol Daleithiau wedi derbyn “datganiad da iawn” gan Iran.

'Tensiynau'

Mae cannoedd o bobl eisoes wedi cael eu lladd neu eu hanafu yn ystod y protestiadau diweddar yn erbyn llywodraeth y wlad, yn ôl adroddiadau.

Mae fideos sydd wedi cael eu cyhoeddi ar-lein yn dangos pobl ar strydoedd dinasoedd Iran, gydag adeiladau a cherbydau yn cael eu rhoi ar dân.

Wrth ymateb i’r sefyllfa, roedd Llywodraeth Iran wedi gosod gwaharddiad ar systemau cyfathrebu’r wlad.

Fe wnaeth Llywodraeth y DU gau ei llysgenhadaeth yn Iran dros dro ddydd Mercher wrth ymateb i’r anghydfod.

Fe gyhoeddodd Syr Keir Starmer hefyd fod y DU yn gweithio ar sancsiynau pellach yn erbyn y wlad er mwyn cosbi “gormes a llofruddiaethau ffiaidd” y wladwriaeth.

Mae’r DU a’r Unol Daleithiau hefyd wedi dechrau tynnu rhai gweithwyr o ganolfan awyr Al-Udeid yn Qatar, ymysg pryderon am wrthdaro newydd rhwng yr Unol Daleithiau ac Iran.

Dywedodd llywodraeth Qatar bod y gweithwyr yn cael eu symud “mewn ymateb i’r tensiynau rhanbarthol presennol”.

Caeodd Iran yr awyr uwchben y wlad i awyrennau o 02:45 amser lleol (22:15 GMT) ddydd Iau, yn ôl gwefan Gweinyddiaeth Hedfan Ffederal yr Unol Daleithiau.

Roedd disgwyl i’r cau bara dwy awr i ddechrau, ond fe gafodd ei ymestyn yn ddiweddarach i 08:00 amser lleol (03:30 GMT), yn ôl asiantaeth newyddion Reuters.

Roedd sawl cwmni hedfan wedi cyhoeddi y byddent yn ailgyfeirio teithiau awyrennau o amgylch Iran mewn ymateb, gan gynnwys Air India a Lufthansa o’r Almaen.

Llun: Gweinyddiaeth Dramor Iran drwy ZUMA Press Wire / Reuters

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.