Pwdin 'Dolig yn colli poblogrwydd?
Nid yw Pwdin 'Dolig "yn bwysig" i nifer o bobl sy'n dathlu'r Nadolig, yn ôl arolwg newydd.
Dywedodd chwech allan o ddeg person (59%) a gafodd eu holi nad ydyn nhw yn meddwl bod pwdin Nadolig yn allweddol ar 25 Rhagfyr.
Cafodd dros 2,000 o bobl eu holi gan y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant, sef y sefydliad sy'n cynhyrchu arian.
Doedd tri chwarter y rhai a gafodd eu holi (77%) erioed wedi clywed am y traddodiad o baratoi'r pwdin ar y Sul olaf cyn yr Adfent, gyda phobl yn dod ynghyd ar gyfer yr achlysur .
Ond yn yr arolwg, roedd 92% yn meddwl ei bod yn bwysig bwyta cinio Nadolig. Roedd 13% yn meddwl bod Elf on the shelf yn bwysig, sef yr arferiad lled ddiweddar o osod coblyn i oruchwylio'r cartref er mwyn sicrhau fod pawb yn bihafio cyn i Siôn Corn ymweld.
Mae'r Bathdy Brenhinol wedi cyhoeddi darn chwe cheiniog arian ar ôl i'r arfer o'u cynhyrchu ddod i ben dros 5o mlynedd yn ôl.
Roedd darnau chwe cheiniog yn arfer cael eu cuddio mewn pwdin Nadolig er mwyn dod â lwc dda i bobl, ond mae'r traddodiad hwnnw wedi colli tir bellach.
Eglurodd yr hanesydd bwyd, Annie Gray: "Roedd y chwe cheiniog yn dod o hen draddodiad, sef cuddio anrhegion bach mewn pwdin oedd yn cael ei fwyta ar y 12fed noson.
"Roedd y person oedd yn darganfod y darn chwe cheiniog yn derbyn cyfoeth, iechyd da a hapusrwydd am y flwyddyn i ddod."
Prif lun: Wochit/Edward Shaw