Pryder ynglŷn ag agwedd Donald Trump tuag at newid hinsawdd
Pryder ynglŷn ag agwedd Donald Trump tuag at newid hinsawdd
Ymhen tri mis bydd Donald Trump yn camu nôl i'r Tŷ Gwyn fel Arlywydd America.
America Gyntaf yw ei neges, ond mae ei gyfrifoldeb dros bethau yn mynd lawer ymhellach na hynny.
Ymhlith y pwysicaf o'r rheiny, sut i ymateb i newid hinsawdd.
I think it's a big scam for people to make a lot of money.
Ydy, mae ei farn yn glir. Wrth baratoi i ddychwelyd fel Arlywydd America mae Donald Trump yn bwriadu torri nôl ar weithredoedd yr UDA i helpu atal newid hinsawdd.
Mae wedi siarad am liquid gold yr UDA i bwmpio fwy o olew a nwy o feysydd ledled y wlad, a fydd yn bryder.
Bydd yn cynyddu'r diwydiant tanwydd ffosil yn yr UDA. Bydd yn gwyrdroi mesurau ynni glan Joe Biden ac yn ymbellhau oddi wrth gytundebau rhyngwladol fel Cytundeb Paris, er enghraifft.
Cytundeb Paris.
Yng nghynhadledd COP 2015, cytunodd arweinwyr y byd i geisio atal tymereddau byd eang rhag codi mwy nag 1.5C.
Yr wythnos hon, daeth ergyd i hynny gyda chyhoeddiad bod disgwyl i 2024 fod y flwyddyn gynhesaf ar gofnod.
Mae'r siart yma'n dangos y tymheredd cyfartalog byd-eang o'i gymharu gyda'r adeg cyn y cyfnod diwydiannol.
Eleni, yn ôl Gwasanaeth Newid Hinsawdd Copernicus fydd hynny'n 1.55C yn uwch na'r cyfnod hwnnw.
Roedd yn mynd i fod yn sialens.
Ydyn ni am gyrraedd y nod yna?
'Dan ni ddim am gyrraedd Net Zero.
Nawr bod Trump wrth y llyw bydd y cwtogi yn meddwl amen i'r gobeithion hynny.
Wythnos nesa, bydd swyddogion o bob cwr o'r byd yng Nghynhadledd COP 29.
Bwriad y gynhadledd blynyddol yw ceisio codi uchelgais gwledydd y byd i helpu arafu newid hinsawdd a lleihau'r defnydd o danwydd ffosil fel rhan allweddol o hynny.
Ni'n mynd mewn i diroedd peryglus. Yr unig ffordd i weithredu yw dod a gwledydd mwyaf y byd i ddealltwriaeth i gyfrannu mwy a gwarchod yr ardaloedd bregus.
Bydd cynrychiolwyr o'r UDA yn COP wythnos nesa er bod pryder yn parhau ynglŷn ag agwedd Donald Trump yn flaenorol tuag at newid hinsawdd.
Wrth weld mwy a mwy o effeithiau newid hinsawdd mae Trump yn dychwelyd i'r Tŷ Gwyn yn taflu cysgod dros yr uwchgynhadledd a hynny cyn i unrhyw drafodaethau ddechrau.