'Dyfodol ansicr' i Mike Peters ar ôl methu â chael triniaeth bwysig
Mae prif leisydd The Alarm, Mike Peters wedi dweud bod ei "ddyfodol yn ansicr" am nad yw wedi llwyddo i gael triniaeth bôn-gelloedd (stem cells).
Bu'n rhaid i'r seren roc ohirio ei daith i America yn gynharach eleni ar ôl iddo dderbyn diagnosis o ganser.
Fe wnaeth Peters wella o'r canser ym mis Medi ond dychwelodd fis yn ddiweddarach.
Mae gan Mr Peters syndrom Richter's, sydd yn fath o ganser ffyrnig.
Collodd y canwr 65 oed y cyfle i gael trawsblaniad bôn-gelloedd oherwydd y canser.
"Yn anffodus, roedd syndrom Richter's wedi golygu nad oedd modd i mi dderbyn y trawsblaniad hwn a fyddai o bosib yn achub fy mywyd," meddai.
"Roeddwn i mor agos, ond yn dal yn bell i ffwrdd.
"Er gwaethaf hyn, nid y diwedd yw hwn. 'Dw i ar driniaeth chemotherapi newydd... ac os ydw i yn gwella i'r pwynt eto lle dwi'n gallu cael trawsblaniad bôn-gelloedd, bydd hynny'n digwydd.
"Mae'r dyfodol dal yn ansicr, ond mae gen i nifer o opsiynau."
Annog pobl i roi celloedd
Mae Mike Peters wedi dechrau ymgyrch gyda'r elusen ganser DKMS i geisio cael 250,000 o bobl ar y rhestr rhoddwyr bôn-gelloedd.
Ei obaith yw y bydd mwy o bobl yn gallu derbyn trawsblaniadau fydd yn achub eu bywydau.
"Mae rhaid i bobl sydd angen trawsblaniad bôn-gelloedd ddarganfod y person perffaith ar gyfer y canlyniad gorau," meddai.
"Dychmygwch helpu rhywun trwy fod y person yna sydd yn achub ei fywyd.
"Mae bod yn rhoddwr yn golygu braidd dim ymdrech ac mae'r wobr yn anhygoel."
Yn ôl elusen DKMS 60% o gleifion sydd yn darganfod person sydd yn gallu bod yn rhoddwr bôn-gelloedd. Mae'r galw am roddwyr newydd felly yn hanfodol.
“Rydym am helpu pobl â chanser y gwaed i gael trawsblaniad bôn-gelloedd a chael y cyfle gorau posibl am ddyfodol iachach," meddai Michael Gallagher o DKMS.
"Mae bod yn rhoddwr yn syml. Rydych chi'n archebu swab boch am ddim a'i anfon yn ôl atom gyda'ch sampl i gael eich cynnwys ar y gofrestr.”
Prif lun: PA/Jules Peters