Newyddion S4C

Teithwyr o Ffrainc i orfod hunan-ynysu am 10 diwrnod 

Sky News 17/07/2021
MAES AWYR

Mae’r diwydiant teithio wedi beirniadu penderfyniad Llywodraeth y DU i orfodi teithwyr o Gymru a Lloegr sy’n dychwelyd o Ffrainc i hunan-ynysu am 10 diwrnod. 

O ddydd Llun ymlaen, ni fydd yn rhaid i deithwyr sydd wedi eu brechu yn llawn hunan-ynysu ar ôl dychwelyd o wledydd sydd ar y rhestr oren, fel Sbaen, Portiwgal a Groeg.

Roedd Ffrainc i fod yn rhan o’r cynllun, ond mewn tro pedol nos Wener, mae hi bellach wedi ei heithrio o’r cyngor newydd. 

Daw hyn yn sgil pryderon am gynnydd mewn achosion o’r amrywiolyn Beta yn y wlad, straen a welwyd gyntaf yn Ne Affrica. 

Mae pennaeth Easyjet wedi disgrifio’r penderfyniad fel un siomedig.

Ond yn ôl Gweinidog Trafnidiaeth San Steffan, Grant Schapps, iechyd a diogelwch y boblogaeth sy’n cael blaenoriaeth. 

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.