'Difrod sylweddol' i gwrs golff Pwllheli dros y penwythnos
11/11/2024
Mae 'difrod sylweddol' wedi cael ei greu yng Nghlwb Golff Pwllheli yng Ngwynedd wedi adroddiadau fod car wedi ei yrru ar y cwrs.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Llun, dywedodd y clwb golff fod "car wedi bod ar y cwrs a wedi creu difrod sylweddol ar yr 11eg twll."
Ychwanegodd y clwb bod darganfod hynny yn "drist iawn" a bod yr heddlu wedi cael gwybod am y digwyddiad.
Mae'r clwb golff yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth neu sydd wedi sylwi ar gar yn gyrru'n amheus o gwmpas yr ardal dros y penwythnos i gysylltu â'r heddlu.
Llun: Clwb Golff Pwllheli