Newyddion S4C

Kieffer Moore allan o garfan Cymru ar gyfer Twrci a Gwlad yr Iâ

11/11/2024
Kieffer Moore yn gadael y cae gydag anaf wrth chwarae i'w glwb Sheffield United

Mae Kieffer Moore allan o garfan Cymru ar gyfer y ddwy gêm nesaf yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Bu'n rhaid i'r ymosodwr Cymru adael y cae mewn gêm yr wythnos diwethaf oherwydd anaf wrth chwarae dros ei glwb, Sheffield United. 

Mae wedi sgorio dwy gôl y tymor hwn gyda Sheffield United yn ail yn y Bencampwriaeth.

Mae Owen Beck a Wes Burns hefyd allan o'r garfan, gyda Jay Dasilva, Charlie Savage a Luke Harris yn cael eu cynnwys yn lle'r tri chwaraewr.  

Ddydd Mawrth, cyhoeddodd Craig Bellamy ei garfan ar gyfer y gemau yn erbyn Twrci a Gwlad yr Iâ ar 16 ac 19 Tachwedd.

Pe bai Cymru yn gorffen yn ail yn y grŵp, fe fyddan nhw'n chwarae yn erbyn un o dimau Cynghrair A mewn dwy gêm ail-gyfle i geisio ennill dyrchafiad i Gynghrair A.

Ar hyn o bryd Twrci sydd ar y brig gyda 10 pwynt a Chymru yn ail ar wyth pwynt. Bydd angen i Wlad yr Iâ, sydd yn y trydydd safle ennill eu dwy gêm olaf er mwyn codi i'r ail safle.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.