Trigolion yn gorfod gadael eu tai wedi tân yn Y Fenni
Trigolion yn gorfod gadael eu tai wedi tân yn Y Fenni
Mae rhai trigolion wedi gorfod gadael eu tai wedi tân yng nghanol tref Y Fenni.
Cafodd y gwasanaethau tân a'r heddlu eu galw tua 20.30 nos Sul ar ôl adroddiadau bod tân y tu ôl i siop elusen Magic Cottage ar Stryd Frogmore.
Does 'na neb wedi ei anafu ond mae'r heddlu wedi dweud wrth bobl am gadw draw o'r ardal.
Mae canolfan hamdden Y Fenni wedi ei hagor ar gyfer y rhai sydd wedi eu heffeithio, ac mae tâp wedi ei roi o gwmpas Stryd Frogmore a strydoedd eraill er mwyn diogelwch.
Mae'r llu hefyd wedi dweud wrth drigolion am gadw eu ffenestri a drysau ar gau o achos y mwg.
Dywedodd y Cynghorydd Tudor Thomas o Gyngor Tref Y Fenni bod y “sefyllfa yn ddifrifol”.
“Mae Stryd Frogmore, y rhan fwya, ar gau. Mae’r siop elusen Magic Cottage wedi mynd... a hefyd ma' siop arall ar yr ochor, Cable News - sy’n gwerthu papurau ac ati - wedi mynd,” meddai ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore dydd Llun.
“Ma' rhai busnesau a siopau yn y stryd sy'n mynd ar yr ochor, Smiles Better y deintydd, wedi cau oherwydd shwd gyment o fwg.
“Mae adeilad y siop Magic Cottage just wedi mynd yn gyfan gwbl.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas bod nifer o bobol wedi gorfod gadael eu tai.
“Mae nifer o bobol yn byw mewn fflatiau uwchben rhai o’r siopau yma,” meddai.
“Felly mae dros 100 o bobol... ma' system argyfwng Cyngor Sir Fynwy wedi cicio mewn, ac mae nifer o bobol lan y ganolfan hamdden yn cael help a chymorth dros nos a dros y dydd heddiw, felly fydd lot ohonyn nhw heb gartref.
“Bydd e’n ergyd ac yn cael effaith. Ni’n rhedeg at adeg y Nadolig a bydd hwnna’n cael effaith, mae Stryd Frogmore yn un o brif strydoedd y Fenni… fel dw i’n deall bydd rhaid nawr iddyn nhw edrych ar yr adeilad a rhai o’r siopau o gwmpas Magic Cottage just i weld be 'di’r sefyllfa.
“A bydd e’n cael effaith i gael yr adeilad lawr i fod yn ddiogel.”
Llun: Mario Chip