Newyddion S4C

Gatland dan bwysau: Jamie Roberts yn anghytuno â'r ‘sbin’ ar ôl colli i Ffiji

10/11/2024
Warren Gatland a Jamie Roberts

Mae cyn ganolwr Cymru Jamie Roberts wedi dweud mai rhoi “sbin” ar golli oedd Warren Gatland wrth ddweud bod ei dîm yn gwella.

Daw ei sylwadau ar ôl i Gymru golli yn erbyn Ffiji gartref am y tro cyntaf erioed ddydd Sul.

Dywedodd Warren Gatland ar ôl y gem ei fod yn “siomedig” ond fod yna “lot o bethau da am heddiw”.

Ychwangeodd y byddai yn “cymryd amser” gyda’r chwaraewyr ifanc oedd gyda nhw.

Ond dywedodd Jamie Roberts nad oedd yn cytuno ag asesiad Warren Gatland.

 “Mae’n dweud eu bod nhw’n tyfu fel grwp,” meddai. “Mae’n rhaid i fi anghytuno a bod yn onest. 

“Colli 10 ar y bowns - dyna’r gwaethaf mae Cymru wedi bod yn y cyfnod proffesiynol.

“Dw i’n deall y sbin mae Warren yn ceisio ei roi ond sori, dwi’m yn meddwl bod Cymru wedi symud ymlaen.

“Falle rhai elfennau o’u gêm nhw, ond sa’i di gweld Cymru yn tyfu. Fi’n gwylio Awstralia ddoe fel tîm sydd wedi tyfu ac wedi cymryd cam ymlaen fel tîm.

“Sa’i di gweld tîm sydd wedi tyfu o’r haf a bod yn onest.”

Dywedodd cyn chwaraewr rheng ôl Cymru, Sioned Harris, bod rhaid i Warren Gatland “fod yn realistig”.

“Does dim gwelliant wedi dod dros yr haf,” meddai. “Os ma fe, dyw e ddim yn amlwg.”

Dywedodd Rhys Patchell y dylai’r chwaraewyr fod yn ysu am chwarae i Gymru.

“Dwi’m yn hollol siwr bod y chwaraewyr i gyd yn teimlo hynny nawr,” meddai.

“Mae yna gymaint o bwysau arnyn nhw felly bydd yn ddiddorol gweld os allen nhw droi e rownd mewn amser mor fyr yr wythnos hyn.”

‘Positif’

Wrth gael ei gyfweld ar ol y gêm dywedodd Warren Gatland ei fod yn “gyfforddus” gyda’r pwysau arno wedi i Gymru golli yn erbyn Ffiji gartref am y tro cyntaf erioed.

“Dydw i ddim yn siŵr a ydyn nhw [y chwaraewyr] yn teimlo'r pwysau,” meddai.

 “Mae yna lawer wedi'i gyfeirio ata i, a rydw i’n fwy na chyfforddus a hapus gyda hynny i dynnu rhywfaint o'r pwysau oddi ar y chwaraewyr, oherwydd weithiau gall hynny fynd ychydig yn ormod iddyn nhw.

“Y mwyaf o bwysau sy'n dod arna i, y mwyaf sy’n dod o’r cyfryngau, yna mae'n debyg ei fod yn rhyddhau'r chwaraewyr ychydig. 

“Felly yn bendant dydw i ddim eisiau iddyn nhw deimlo dan bwysau. Aethon ni allan yna i chwarae, i drio bod yn bositif yn y ffordd roedden ni'n chwarae.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.