Plant Mewn Angen: Paddy McGuinness yn seiclo o Wrecsam i'r Alban
Fe fydd y cyflwynydd Paddy McGuinness yn seiclo o Gymru i’r Alban er mwyn codi arian at elusen Plant Mewn Angen eleni.
Bydd cyn cyflwynydd Top Gear a Take Me Out yn cychwyn ei daith 300 milltir yn Wrecsam bore Llun. Ei obaith yw croesi’r llinell derfyn yn Glasgow bore Gwener ar 15 Tachwedd.
Erbyn iddo gwblhau’r her mi fydd Paddy McGuinness, 51 oed, wedi teithio ar hyd Sir y Fflint, Swydd Gaer, Glannau Mersi, Swydd Gaerhirfryn, Westmorland, Cumberland, Swydd Dumfries a Swydd Lanark.
Dywedodd ei fod wedi ei “ysbrydoli” gan y bobl o’i gwmpas. “Dyna sydd yn eich tanio, yn ogystal â’r holl waith sy’n cael ei wneud.”
Bydd Mr McGuinness yn cyflawni’r daith ar feic Raleigh Chopper. Dywedodd ei fod wedi breuddwydio am seiclo’r beic hwnnw ers iddo fod yn fachgen ifanc.
Paratoi
Er mwyn paratoi at yr her mae’r cyflwynydd wedi bod yn hyfforddi gyda phencampwr y Gemau Olympaidd, Syr Chris Hoy o’r Alban.
Fis diwethaf fe gyhoeddodd Syr Chris Hoy ei fod wedi cael diagnosis o ganser. Mae meddygon wedi dweud wrtho fod ganddo rhwng dwy a phedair blynedd ar ôl i fyw.
Wrth siarad am Syr Hoy, dywedodd Paddy McGuinness ei fod wedi bod yn “rhagorol” ac yn “wych” gyda’i gyngor.
“Pan dwi’n seiclo gyda Chris, dwi wir yn gwybod fy mod i yn gwneud oherwydd mae’n gwthio fi i’r eithaf.”
“Dwi wir yn teimlo fel bod pawb yn fy nghefnogi gyda hyn,” meddai.
Bydd Plant Mewn Angen yn cael ei darlledu ar BBC One a BBC iPlayer am 19.00, 15 Tachwedd.
Bydd rhaglen ddogfen o’r enw Paddy: The Ride of My Life yn cael ei darlledu ar BBC One ar 19 Tachwedd sydd yn dilyn her seiclo'r cyflwynydd.
Prif lun: BBC/PA Wire