Newyddion S4C

Cymru yn colli yn erbyn Ffiji gartref am y tro cyntaf erioed

Cymru v Ffiji

Mae Cymru wedi colli yn erbyn Ffiji 19 – 24 yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd.

Dyma’r eildro yn unig i Gymru golli 10 gêm yn olynol a’r tro cyntaf iddyn nhw golli yn erbyn Ffiji gartref.

Maen nhw wedi colli yn erbyn Ffiji unwaith o'r blaen, yng Nghwpan y Byd 2007 ac fe arweiniodd hynny at ddiswyddo eu hyfforddwr ar y pryd, Gareth Jenkins.

Bydd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, dan bwysau anferth gyda gemau yn erbyn Awstralia a De Affrica i ddod.

Roedd Ffiji wedi colli 57-17 yn erbyn yr Alban yr wythnos diwethaf, gan awgrymu bod bwlch hwy yn agor rhwng Cymru a thimoedd eraill y Chwe Gwlad.

Fe sicrhaodd Cymru'r dechrau perffaith wrth i Blair Murray sgorio cais yn ei gêm gyntaf dros y crysau cochion wedi wyth munud yn unig.

Roedd yn symudiad slic aeth drwy ddwylo Max Llewellyn, Gareth Anscombe, Ben Thomas a Max Grady.

Fe darodd Ffiji yn ôl yn syth pan fethodd Cymru a rowlio i ffwrdd ar ôl yr ail-ddechrau.

Roedd Cymru yn meddwl eu bod nhw wedi sgorio eto drwy Cam Winnett wedi 15 munud ond cafodd Tommy Reffell ei yrru i’r gell gosb am chwarae peryglus wrth daclo.

Llwyddodd Cymru i sgorio cais gosb yn syth wedyn ac fe gafodd Elia Canakaivata o Ffiji hefyd gerdyn melyn.

Dwy funud yn ddiweddarach roedd ail garden felen wedi i Semi Radrada daro Cam Winnett yn ei ben gyda’i ysgwydd.

Cafodd ei newid i gerdyn coch gan olygu, dan y rheolau newydd, y bydd modd i rywun gymryd ei le wedi 20 munud.

Er gwaethaf bod i lawr i 13 dyn llwyddodd Ffiji i sgorio cais yn syth wedyn o ddim byd drwy ymdrechion eu mewnwr Caleb Muntz.

Roedd Ffiji yn meddwl eu bod nhw wedi sgorio eto toc cyn hanner amser wedi i  Luc Ramos yrru dros y llinell  gais.

Chwythodd y dyfarnwr am gais gosb ac roedd Tomos Williams ar ei ffordd i’r gell gosb ond wrth wylio eto gwelodd bod Ffiji wedi bod yn euog o drosedd blaenorol.

Hanner amser

Daeth cerdyn coch Semi Radrada i ben yn fuan ar ddechrau’r ail hanner ac fe gafodd ei ddisodli gan Sireli Maqala.

Sgoriodd Ffiji dwy gic gosb un fuan wedyn i’w rhoi nhw ar y blaen am y tro cyntaf, o 16 pwynt i 14.

Bu bron i Gymru sgorio am yr eilwaith drwy Blair Murray ond roedd pas Sam Costelow wedi mynd ymlaen.

Fe aeth pethau o ddrwg i waeth i Gymru wrth i Josua Tuisova sgorio wedi i Waisea Nayacelevu dorri drwy dacl Sam Costelow. Cymru 14-21 Ffiji.

Tarodd Cymru yn ôl gyda chais gan Ellis Bevan gyda’i gyffyrddiad cyntaf yn y gêm ar ôl dod oddi ar y fainc, ond methodd Sam Costelow y trosiad.

Roedd Vuate Karawalevu yn meddwl ei fod wedi sgorio i Ffiji ond roedd pas ymlaen gan y maswr Caleb Muntz.

Roedd angen cais ar Gymru ac roedden nhw'n bygwth ar linell gais Ffiji wrth i'r cloc droi'n goch ond cnociodd Ryan Elias y bêl ymlaen.

Cyn heddiw roedd Cymru wedi ennill 12 o'r 14 gêm a chwaraewyd, gyda Fiji yn ennill un, ac un gêm gyfartal.

Ymateb

Dywedodd Capten Cymru, Dewi Lake ei fod yn "siomedig iawn".

"Fe wnaethon ni osod ein stondin allan yn ystod yr wythnos ein bod ni'n dod yma i ennill," meddai.

"Dyna oedd neges yr hyfforddwyr, ond wnaethon ni ddim gwneud hynny.

“Pob parch i Ffiji, roedden nhw’n ardderchog ond doedd y disgyblaeth ddim digon da ac fe wnaethon ni dalu'r pris."

Llun gan Huw Evans.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.