Newyddion S4C

Arestio dyn ar ôl marwolaeth menyw yn Rhondda Cynon Taf

10/11/2024
Abercynon

Mae dyn wedi’i arestio ar ôl marwolaeth menyw “sydd heb ei esbonio” mewn eiddo mewn pentref yn Rhondda Cynon Taf. 

Fe gafodd menyw 42 oed ei chanfod wedi marw gan swyddogion yr heddlu yng Nghlos Martin, Abercynon. 

Dywedodd Heddlu De Cymru bod y gwasanaethau brys wedi cael eu galw yno am tua 12.30yb ddydd Gwener. 

Ychwanegodd y llu eu bod nhw bellach yn ymchwilio “yn fanwl” i’r amgylchiadau a wnaeth at arwain at farwolaeth y fenyw. 

Fe gafodd dyn lleol 51 oed ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad. 

Mae bellach wedi’i ryddhau ar fechnïaeth amodol wrth i ymchwiliadau’r heddlu gael ei gynnal.

Llun: Google Maps

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.