Newyddion S4C

Reform yn ystyried galw am ddatganoli pwerau dros gyfiawnder a phlismona i Gymru

10/11/2024
Reform UK

Mae Reform UK yn ystyried galw am ddatganoli pwerau dros gyfiawnder a phlismona i‘r Senedd, meddai llefarydd ar ran y blaid yng Nghymru.

Dywedodd Oliver Lewis wrth raglen Sunday Supplement ar Radio Wales bod y “Senedd yma i aros ac rydyn ni’n ei gefnogi”.

Cafodd cynhadledd Gymreig Reform ei chynnal yng Nghasnewydd ddydd Gwener.  

Nod y blaid yng Nghymru oedd “gwneud yn siwr bod y Senedd yn gwneud yn well” a’i fod yn teimlo “pob pobl yr Alban yn hapusach gyda Holyrood nag yw pobl Cymru gyda’r Senedd,” meddai Oliver Lewis.

“Roeddwn i’n arfer bod yn weddol amheus o’r syniad y dylid datganoli cyfiawnder a phlismona i Gaerdydd,” meddai.

“Ond yn gynyddol rydw i’n dechrau sylweddoli y gallai Reform fod mewn llywodraeth yng Nghaerdydd, neu yn rhan o glymblaid.

“Ac felly Reform fyddai yn goruchwilio gorfod ailosod y system gyfiawnder yng Nghymru, ac mae mawr angen gwneud hynny.

“Mae’n sicr yn rywbeth ydan ni’n edrych arno. Rydw i wedi datblygu diddordeb yn ddiweddar ym methiannau y system farwnwriaethol.

“Rydyn ni’n meddwl am y sgandal swyddfa’r post, yr holl erlyniadau preifat hynny a gafodd eu caniatáu gan y system gyfiawnder.

“Yn amlwg mae gennym ni, Duw a wyr faint o broblemau yn y gwasanaeth prawf, a’r gwasanaeth carchardai. 

“Felly mae rhywun yn meddwl tybed pe bai cyfiawnder a phlismona yn cael eu datganoli i Gaerdydd, y gellid ailfeddwl yn llwyr ac ailosod y ffordd y caiff cyfiawnder a phlismona eu darparu.”

Etholiad

Daw ei sylwadau wedi i arolwg barn awgrymu bod Reform bellach yn y trydydd safle yng Nghymru, o flaen y Ceidwadwyr.

Yn ôl yr arolwg barn gan Survation, a holodd dros 2,000 o oedolion yng Nghymru, dywedodd 30% y bydden nhw yn pleidleisio dros Lafur, petai'r etholiad yn cael ei alw nawr. 

Roedd Plaid Cymru ar 21%, Reform ar 20%, y Ceidwadwyr ar 17%, y Democratiaid Rhyddfrydol ar 6% a'r Blaid Werdd ar 5%.

Bydd etholiad y Senedd yn cael ei gynnal ar 7 Mai 2026.

Does gan Reform yr un sedd yn Senedd Cymru, a ni lwyddodd y blaid i gipio sedd yn Nghymru yn Etholiad Cyffredinol San Steffan yn 2024. 

Ond roedd Reform yn ail mewn 13 o etholaethau, gyda sawl sedd yng nghymoedd y de yn eu plith. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.