Abertawe: Heddlu'n canfod corff ar ôl bod yn chwilio am dad i dri
Mae Heddlu De Cymru wedi dweud eu bod nhw wedi canfod corff yn Abertawe ar ôl bod yn chwilio am dad i dri oedd ar goll.
Y gred yw mai Zachariah, neu ‘Zac’, Green yw’r dyn. Fe aeth Mr Green, 31 oed, o Lanedeyrn, Caerdydd ar goll ar 26 Hydref.
Nid yw'r corff wedi'i adnabod yn ffurfiol hyd yma ond mae teulu Mr Green wedi cael gwybod, meddai’r llu.
Mae’r crwner hefyd wedi cael gwybod ac mae ymchwiliadau’n parhau.
Daw hyn wedi i’r heddlu gael eu galw i Gilgant Penlan yn ardal Uplands am tua 12.40yp ddydd Sadwrn.
Roedd Heddlu De Cymru eisoes wedi dweud mai gorsaf bws Abertawe oedd yr ardal ddiwethaf i Mr Green gael ei weld, a hynny am 07.25 fore Mawrth, 29 Hydref.
Fel rhan o ddatganiad swyddogol yr heddlu, dywedodd brawd Zac Green, Marley, ar ran eu teulu ei fod eisiau “diolch i bawb sydd wedi cefnogi’r ymgyrch a helpu dod o hyd iddo.”
Mae’r teulu bellach wedi gofyn am breifatrwydd er mwyn delio gyda’u colled.