'Colli Mared oherwydd blerwch': Teulu o Ynys Môn yn galw am well gofal i fyfyrwyr ar ôl hunanladdiad eu merch
'Colli Mared oherwydd blerwch': Teulu o Ynys Môn yn galw am well gofal i fyfyrwyr ar ôl hunanladdiad eu merch
Mae teulu o Ynys Môn a gollodd eu merch i hunanladdiad bedair blynedd yn ôl yn galw am well dyletswydd gofal gan brifysgolion dros eu myfyrwyr.
Bu farw Mared Foulkes ym mis Gorffennaf 2020, saith awr ar ôl derbyn ei chanlyniadau gan Brifysgol Caerdydd.
Roedd rhain yn nodi iddi fethu un uned a na fyddai hi’n gallu parhau i’r drydedd flwyddyn, er ei bod wedi ailsefyll yr asesiad ac wedi’i basio.
“Roedd hi’n gydwybodol iawn, ac wedi mynd i’r brifysgol i lwyddo,” meddai Iona Foulkes, mam Mared.
Ar ôl derbyn yr e-bost gyda’r canlyniadau, fe yrrodd Mared, oedd yn 21 oed, tuag at Bont Britannia. Dyma’r tro diwethaf iddi gael ei gweld yn fyw.
“Aeth hi o ’ma y diwrnod hwnnw yn credu ei bod wedi methu ei blwyddyn ac nad o’dd hi’n cael mynd yn ôl i Gaerdydd,” meddai Iona Foulkes wrth raglen Y Byd ar Bedwar.
“Doeddwn i ddim yn credu’r peth o gwbl. Fyddwn ni byth yr un peth.”
Mae’r teulu’n dweud fod yr e-bost wedi bod yn gamarweiniol, ac yn anghywir i nodi nad oedd modd i Mared barhau gyda’i hastudiaethau.
“Gafodd ei huchelgais hi ei stopio oherwydd blerwch."
Yn y cwest i farwolaeth Mared yn Hydref 2021, fe ddywedodd y crwner bod y modd y gwnaeth Prifysgol Caerdydd gyfathrebu’r canlyniadau yn “gymhleth ac yn ddryslyd".
“Erbyn iddyn nhw [Prifysgol Caerdydd] gywiro eu hunain, ro’dd hi’n rhy hwyr i Mared," meddai Iona Foulkes.
“Ma’ nhw wedi colli myfyriwr, ond dw i wedi colli merch annwyl iawn, iawn.
"Dwi’n gorfod pasio ei bedd hi bob dydd, ydyn nhw’n gorfod gwneud hynny?”
Ymgyrchu am ddyletswydd gofal gwell mewn prifysgolion i’w myfyrwyr
Mae Iona a’r teulu yn rhan o’r grŵp o deuluoedd sy’n galw am well dyletswydd gofal gan brifysgolion dros eu myfyrwyr.
Mae’r grŵp ‘For the 100’ yn cynrychioli’r cant o fyfyrwyr, ar gyfartaledd, sy’n marw o hunanladdiad yng Nghymru a Lloegr bob blwyddyn.
Gyda chymorth cyfreithwyr, mae Iona wedi creu adroddiad gydag argymhellion i brifysgolion i geisio atal hunanladdiadau ymysg myfyrwyr.
Mae’r argymhellion yn cynnwys gwella'r ffordd mae prifysgolion yn cyfathrebu gyda theuluoedd am iechyd meddwl eu plant, a system ‘optio allan’ os nad yw myfyrwyr eisiau i’w rhieni wybod am unrhyw bryderon llesiant difrifol.
“Ar hyn o bryd, mae’r gyfraith cyfrinachedd yn arbed prifysgolion rhag cysylltu gyda’r teulu os bod sefyllfa lles ddifrifol neu fwriad o hunanladdiad yn codi,” meddai'r cyfreithiwr Dr Emma Roberts, sydd wedi helpu’r teulu i lunio’r adroddiad.
“’Da ni eisiau gweld y cysondeb o un brifysgol i’r llall, a dim ond drwy newid y gyfraith all hynny ddod i fewn.”
Naw mis cyn i Mared farw, roedd hi wedi ymweld â Gwasanaethau Cymorth y Brifysgol i drafod ei hiechyd meddwl. Doedd y teulu ddim yn ymwybodol o hyn am flwyddyn wedi’i marwolaeth.
I Iona Foulkes, roedd y diffyg cyfathrebu a’r diffyg cydymdeimlad oddi wrth y Brifysgol yn “ysgytwol”.
“Mae’n rhaid i mi wneud hyn, fel mam sy’n galaru. Os byse ’na fwy o ofalaeth wedi bod, dw i’n bendant y bysa Mared dal yn fyw,” meddai Iona.
“Ma’ pethau’n araf iawn yn datblygu. Dyla neb arall golli’u bywyd cyn i bethau newid.”
Prifysgol Caerdydd yn “ymddiheuro i’r teulu”
Yn ôl Prifysgol Caerdydd, maen nhw’n “flin i glywed bod y teulu’n anhapus gyda chyfathrebu a chydymdeimlad y brifysgol”, a’u bod nhw wedi “ymddiheuro i’r teulu am yr adeg y gatho nhw bethe yn anghywir".
Yn dilyn y cwest i farwolaeth Mared, fe ddywedon nhw eu bod nhw am “wella iaith a thôn wrth gyfathrebu canlyniadau myfyrwyr”, a bod yr arfer o roi marc methiant ‘tybiannol’ “wedi’i atal ar unwaith”.
Maen nhw’n dweud eu bod nhw nawr yn “ceisio bod mor agored a thryloyw a phosib pan fydd teuluoedd yn gofyn am wybodaeth,”er mewn rhai achosion mae “cyfyngiadau os oes cwest neu ymchwiliad gan yr heddlu".
Maen nhw’n parchu galwadau’r teulu am system ‘optio allan’ a’u bod yn “parhau i adolygu’r syniad fel rhan o’i hadolygiad o’i strategaethau iechyd meddwl".
“Er hyn, mae’n rhaid i ni barchu preifatrwydd ein myfyrwyr, gan fod rhai myfyrwyr,am wahanol resyme, ddim eisiau i’w gwybodaeth gael ei rannu gyda’u rhieni.”
Mae ganddyn nhw “system newydd sy’n caniatáu i fyfyrwyr ddewis un person penodol pan fyddan nhw’n dechre yn y brifysgol fel cyswllt arbennig, a fydd yn cael gwybod os bod 'na unrhyw bryderon difrifol yn codi".
Bydd rhaglen Y Byd ar Bedwar: Marwolaeth Mared Foulkes ar S4C am 8yh nos Lun.