'Mor falch': Amy Dowden yn nodi blwyddyn ers i'w thriniaeth cemotherapi ddod i ben
Mae Amy Dowden wedi dweud ei bod hi “mor falch” wrth nodi blwyddyn ers i’w thriniaeth cemotherapi ddod i ben.
Dywedodd y ddawnswraig o Gaerffili ei bod eisiau diolch i bawb o’i chwmpas sydd wedi bod yn bresennol i'w chefnogi drwy “y da, y drwg a’r hyll” dros y flwyddyn ddiwethaf wrth iddi frwydro â chanser y fron.
Wrth rannu fideo o’r llynedd ohoni yn canu cloch i nodi diwedd ei thriniaeth canser, dywedodd ei bod yn “mor falch” ei bod wedi dyfalbarhau a dychwelyd i’r byd dawnsio gan mai dyna sydd wedi ei gwneud yn “wirioneddol hapus eto".
Fe wnaeth Amy Dowden hefyd roi teyrnged i’w ffrind Nicky Newman a fu farw o ganser y fron y llynedd.
“Ers 09.11.2023 dw i wedi addo i fy hun y byddwn i’n gafael ym mywyd fel y gwnaeth [Nicky Newman] dysgu i mi wneud," meddai.
“Ar y pryd doeddwn i ddim i wybod beth oedd o’m mlaen… roedd yn ‘fi’ newydd ond yn ddwfn y tu mewn i mi fe wnes i ddysgu nad oedd gen i ddim hyder.
“Hyd yn oed at ddiwedd cyfnod y gwanwyn, doeddwn i ddim yn siŵr y byddwn i’n cael yr hyder i ddawnsio eto.
“Doedd e ddim yn teimlo fel fi. Ond dwi mor falch dwi wedi dyfalbarhau achos dyna sydd wedi fy ngwneud i’n wirioneddol hapus eto.”
'Breuddwydio'
Daw ei neges wedi iddi gadarnhau'r wythnos hon na fyddai’n dychwelyd i raglen deledu Strictly Come Dancing ar ôl iddi ddioddef anaf i’w throed.
Mae hynny’n golygu na fydd hi’n dawnsio gyda’i phartner ar y gyfres, JB Gill, am weddill y gyfres. Mae JB Gill wedi cael partner dawnsio newydd, Lauren Oakley, am weddill y gyfres.
Fe aeth Ms Dowden ymlaen i ddweud yn ei neges ddydd Sadwrn nad yw hi’n “dathlu” yn y modd yr oedd hi wedi “dychmygu.”
Ond dywedodd ei bod yn “hynod o falch” o’r hyn mae wedi cyflawni ers y gaeaf y llynedd.
“Fe fydda i'n parhau i wthio, breuddwydio a gwneud yn siŵr fy mod i’n gafael ym mywyd ym mhob ffordd posib!" meddai.
Llun: @amy_dowden/Instagram