Newyddion S4C

Y Frenhines yn methu digwyddiadau Penwythnos y Cofio oherwydd salwch

09/11/2024
Ei Mawrhydi Y Frenhines

Bydd y Frenhines yn methu digwyddiadau i gofio’r rhai a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd oherwydd haint ar ei brest, meddai Palas Buckingham.

Roedd disgwyl i Camilla ymuno â gweddill y teulu yn Neuadd Frenhinol Albert ddydd Sadwrn ac yn Whitehall ddydd Sul ar gyfer seremoni Sul y Cofio.

Bydd Tywysoges Cymru, sy'n gwella o ganser, a'r Brenin, sy'n dal i gael triniaeth am ganser, yn bresennol yn y digwyddiadau hynny.

Dywedodd llefarydd ar ran y Palas: “Yn dilyn cyngor meddygon er mwyn sicrhau adferiad llawn o haint ar ei brest, ac i amddiffyn eraill, ni fydd Ei Mawrhydi yn mynychu digwyddiadau’r penwythnos hwn.

“Mae hyn yn destun siom mawr i’r Frenhines, a fydd yn nodi’r achlysur yn breifat gartref ac yn gobeithio dychwelyd i’w gwaith cyhoeddus yn gynnar yr wythnos nesaf.”

Does dim awgrym bod salwch tymhorol y Frenhines wedi gwaethygu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.