Bachgen o Sir Gâr yn gwerthu wyau o Ynys Môn i China
Bachgen o Sir Gâr yn gwerthu wyau o Ynys Môn i China
Mae gan fachgen 15 oed o Sir Gâr gwsmeriaid o Ynys Môn i China wedi iddo ddechrau busnes gwerthu wyau dwy flynedd yn ôl.
Fe sefydlodd Lewis ei gwmni Chickwood Poultry yn Llanelli yn 2023 wedi iddo gael ei ysbrydoli gan ei fam-gu a’i dad-cu oedd yn cadw ieir ar eu fferm.
Ond wrth iddyn nhw gyrraedd oed lle'r oedd cadw ieir yn anoddach, fe benderfynodd Lewis gymryd drosodd – ac yn fuan iawn fe wnaeth o droi y gwaith o’u cadw yn fusnes.
Ac yn wahanol i nifer o fusnesau gwerthu wyau traddodiadol, fe benderfynodd Lewis fynd yn gam ymhellach gan werthu wyau ffrwythloni.
Mae hyn yn golygu y gall ffermwyr eraill brynu wyau ganddo er mwyn magu’r cywion sydd y tu fewn iddyn, meddai wrth raglen Ffermio.
“Fi ‘di dechrau gyda ‘pedigree breeding groups’ a wedyn gwerthu wyau ffrwythloni mas o incubators a hyd yn oed o dan ieir,” esboniodd.
Ieir Black Australorp, Leghorn a Black Copper Maran sydd yn cyhyrchu wyau ffrwythlonni ar y fferm ar hyn o bryd, tra bod ei ieir cymysg a Black Rock yn cynhyrchu wyau y mae e’n gwerthu er mwyn eu bwyta.
Llwyddiant
Mae Lewis hefyd yn arddangos ei ieir, a hynny wedi bod yn “help mawr” iddo gyda’i fusnes, meddai.
“Mae’n cael y busnes mas ‘ma i bawb i weld. Mae’n dangos y pobl sy’n dod ‘ma bod y ieir o quality dda iawn.”
Mae’r cyfryngau cymdeithasol hefyd wedi bod yn hanfodol i’w antur. Mae’n ei ddefnyddio er mwyn gwerthu ei wyau ffrwythloni ledled y DU, meddai.
“Heb y cyfryngau cymdeithasol bydd dim gyda fi busnes ar y foment," meddai.
“Y fwyaf dwi’n gwerthu arno yw Facebook a Facebook Marketplace – hefyd Ebay a Freeads.”
Mae’n defnyddio Ebay yn benodol er mwyn darparu wyau ffrwythloni yn y post, gan ddefnyddio pecynnau arbennig i’w hamddiffyn wrth iddyn nhw gael eu cludo.
“Mae’r cwsmer wedyn yn rhoi nhw yn yr incubator yn syth, a wedyn mewn 21 dydd dyle nhw cael chicks," meddai.
“Maen nhw’n mynd i Ynys Môn, Edinburgh a hyd yn oed i China yn yr wythnosau diwethaf.”
Mae Lewis yn dweud ei fod wedi llwyddo i werthu 800 wyau o’r fath eleni.
'Ehangu'
Mae’n edrych ymlaen at ehangu ei fusnes yn y dyfodol agos, ac mae’n ddiolchgar i’w fam-gu a'i dad-cu am eu holl gymorth, meddai.
Dywedodd ei fod yn “lwcus iawn cael teulu fel hyn”.
“Cario ‘mlaen ffermio ar y fferm sy’n mwya’ pwysig a mae’r busnes wedi rhoi’r hwb bach ‘na i helpu fi rili,” meddai.
“Fi’n hapus iawn ond fi eisiau ehangu’r busnes bach mwy ddo. Fi’n meddwl mwy o pedigree breeding groups, mwy o postio, mwy o pullets.
“Mae’r wyau ffrwythloni pedigrees wedi dod mewn a llawer o arian i fi blwyddyn hyn a fi moyn ehangu fe mwy blwyddyn nesa.”
Bydd Ffermio yn cael ei darlledu ar S4C am 21.00 ddydd Llun, 11 Tachwedd ac hefyd ar gael ar iPlayer ac S4C Clic.