Y ffermwyr sy'n defnyddio AI er mwyn cadw llygad ar iechyd eu gwartheg
Y ffermwyr sy'n defnyddio AI er mwyn cadw llygad ar iechyd eu gwartheg
Mae ffermwyr wedi arfer defnyddio un math o AI – artificial insemination –ers blynyddoedd.
Ond mae un fferm yn Sir Benfro yn dechrau defnyddio math arall o AI – sef deallusrwydd artiffisial (artificial intelligence).
Nod fferm Gelly Olau, Clunderwen yw gwella iechyd y fuches, sicrhau ansawdd y llaeth ac arbed arian.
Stephen James a’i fab Daniel sy’n ffermio ar y fferm sydd â thua 400 o wartheg ac yn gwerthu llaeth i First Milk a Tesco.
Dywedodd Stephen James wrth raglen Ffermio eu bod nhw wedi dangos bod modd i unrhyw ffermwyr wneud defnydd o AI.
“Dy’n ni ddim yn experts ar sut mae pethau’n gweithio – ond bod o yno gweitho,” meddai.
Maen nhw’n defnyddio system CattleEye sy’n cadw llygad ar y gwartheg wrth iddyn nhw fynd i mewn ag allan o’r parlwr godro ac yn nodi unrhyw broblemau iechyd.
“Wrth i’r buwch gerdded mas o’r parlwr ma’r camera ma’n edrych lawr arni,” meddai Stephen James.
“A mae’n gallu dweud wrthyn nhw a yw’r fuwch yn gloff ai peidio a mae hwnna’n step weddol bwysig i ni.
“Achos ma trad da yn bwysig ofnadw achos mae’n bwysig ofnadw i ga’l nhw i odro ond mae’n bwysig hefyd eu cael nhw’n iach ar eu trad.
“Ma’ nhw’n troi ac yn gallu twisto,” meddai. “Ma nhw’n gallu cael dermatitis, infection yn y troed ei hunan, a mae hwnna’n eitha poenus.
“Ond os ‘da ni’n pigo fo fyny digon clou ma’n helpu. Mae’n step mowr i ni.
“Dyw e ddim yn berffeth ar hyn o bryd – mae eisiau adeiladu proffil – ond dros amser chi’n creu llun o’r sefyllfa yndyfe.”
‘Symud ymlaen’
Mae system CattleEye yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i asesu symudiadau'r gwartheg gan nodi unrhyw broblemau fel cloffni yn gynnar.
Mae’n galluogi Stephen a Daniel James i drin y broblem cyn i’r problemau effeithio ar iechyd y creaduriaid ac felly cynhyrchiant llaeth.
Mae’n rhan o brosiect Arwain DGC i leihau defnydd gwrthfiotegau ar ffermydd.
Dywedodd Rhys Jones o Arwain DGC wrth raglen Ffermio bod CattleEye yn dod i adnabod bob anifail fel unigolyn.
“Mae’n mynd dan y camera dwywaith y dydd felly mae’n dod i nabod yr anifail falle yn well na fyddai gan y ffarmwr ei hunain amser i fynd i edrych,” meddai.
“Mae’n gallu gwneud penderfyniadau i arbed bod yr anifail yn gwaethygu i radde.
“Y peth gore amdano fe hefyd, mae’n rhoi y wybodaeth yma yn syth nôl i’r ffarmwr.
“Ma modd mynd mewn i edrych ar y trod a’i chael hi nôl ar ei ore heb ddefnyddio gwrthfiotig.
“Achos os chi’n gorfod defnyddio gwrthfiotig chi’n mynd i orfod taflu y llath i ffwrdd, sy’n mynd i fod yn golled i’r busnes.
“Mae’n rhan annatod o symud ymlaen ag amaethyddiaeth.”