Ffermwyr yn Sir Gâr ‘yn gwrthod gadael cwmni peilonau’ ar eu tir
Mae rhai ffermwyr yn Sir Gâr wedi dweud eu bod nhw’n gwrthod rhoi mynediad i'w tir i gwmni sy’n gobeithio codi peilonau yno.
Mae cwmni Green GEN Cymru yn gobeithio gwneud arolwg o’r tir ar lwybr arfaethedig 60 milltir y peilonau rhwng Fforest Glud ger Llandrindod ac isbwerdy ger Caerfyrddin.
Ond dywedodd dau ffermwr nad oedden nhw’n gadael y cwmni ar eu tir i wneud y gwaith a bod tirfeddianwyr eraill yn yr ardal yn gwneud yr un fath â nhw.
Dywedodd Dyfan Walters, sy’n gyd-gadeirydd Grŵp Peilonau Llanymddyfri, na fyddai yn caniatau Green GEN Cymru na’u cydweithredwyr ar ei fferm ger y dref.
Byddai rhoi'r ceblau dan y ddaear yn lleddfu pryderon ffermwyr, meddai.
“Mae’r mwyafrif llethol wedi gwrthod mynediad, gan wybod yn iawn efallai y bydd angen mynd i’r llys yn y pen draw,” meddai.
“Rwy’n meddwl bod hynny’n dangos cryfder teimladau pobl. Dydw i ddim yn meddwl y byddai'n beth da i Green GEN fynd â 300 o ffermwyr i'r llys.
“Rydyn ni wedi cynnig cydweithio â nhw i roi'r ceblau o dan ddaear.”
Nid yw Green GEN Cymru wedi awgrymu eu bod nhw eisiau mynd a ffermwyr i’r llys, ac maen nhw’n dweud eu bod nhw’n cynnig cwrdd â thirfeddianwyr i drafod eu pryderon.
Mae’r cwmni wedi dweud y byddai claddu'r ceblau yn costio saith i 10 gwaith cymaint â’r peilonau.
Dywedodd Dyfan Walters nad oedd yn credu y byddai rhoi'r ceblau dan ddaear mor gostus ag oedd y cwmni yn ei awgrymu. “Ond dy’n ni ddim yn arbenigwyr yn y maes.”
“Ry’n ni’n deall bod angen i ni ddefnyddio llai o danwydd ffosil a dod o hyd i ffynonellau ynni eraill.
“Ond mae amaethyddiaeth a thwristiaeth yn fewnbynnau economaidd allweddol yn yr ardal hon.
“Byddai’n llawer gwell gennym ni ei chadw’n brydferth.”
Dywedodd cynghorydd Llanymddyfri, Handel Davies, ei fod ar ddeall bod y gwrthwynebiad “bron yn unfrydol” oherwydd nad oedd yn ymddangos bod gosod ceblau o dan y ddaear drwy aredig wedi ei ystyried o ddifrif.
Y canfyddiad, meddai, oedd na fyddai’r gymuned yn elwa o'r prosiect.
“Mae angen budd sylweddol y mae modd ei adnabod yn lleol,” meddai.
‘Penderfyniad cywir’
Dywedodd y ffarmwr Cled Richards (prif lun ar y dde), sy’n aelod o grŵp ymgyrchu lleol, nad oedd e chwaith wedi caniatáu i Green GEN Cymru ymweld â’i dir ger Llanarthne.
“Byddwn ‘n dweud nad yw’r mwyafrif o dirfeddianwyr yn caniatáu mynediad,” meddai. “Byddwn i’n dweud bod gwrthwynebiad cryf i’r peilonau.
“Os yw (gosod ceblau o dan y ddaear drwy aredig) yn ddrytach na pheilonau, mae’n dal i fod yn brosiect hirdymor,” meddai.
“Weithiau mae costau cyfalaf uwch ond dyna’r penderfyniad cywir.
“Maen nhw’n gwmni preifat, fe ddylen nhw wneud y penderfyniad cywir, ei dderbyn ac ysgwyddo’r baich ariannol dros gyfnod hirach o amser.”
Mae cwmni gosod ceblau drwy aredig o Sir Gaerfyrddin, ATP, wedi gosod llinellau pŵer tanddaearol yn yr Iseldiroedd, yr Alban a Lloegr.
Dywedodd ATP nad oedden nhw eisiau datgelu costau am resymau masnachol, ond bod y costau yn is nag ydoedd yn y gorffennol.
“Mae costau ac effaith yr hen ddull o greu ffos agored yn sylweddol uwch na’r dull o osod ceblau o dan y ddaear drwy aredig/ddrilio,” meddai’r cwmni.
‘Cyfuniad’
Mae Green GEN Cymru, sy’n gwmni o Gaerdydd, wedi dweud eu bod nhw wrthi’n asesu ymatebion i ail ymgynghoriad ar y prosiect £500m.
Yna byddant yn llunio cynllun terfynol a datganiad amgylcheddol drafft, a fydd hefyd yn destun ymgynghoriad, cyn cyflwyno cais i weinidogion Cymru am ganiatâd.
Dywedodd y cwmni byddai cronfa buddsoddi gymunedol yn rhan o'r cynllun, er budd y rhai sydd agosaf at y seilwaith a'r cymunedau ar hyd y llwybr.
Dywedodd y cwmni hefyd eu bod nhw’n ystyried “pob opsiwn” ar gyfer gosod y ceblau trydan ac y bydd “cyfuniad o dechnolegau'n cael eu defnyddio”.
“Bydd y dyluniadau terfynol ar gyfer pob prosiect penodol yn cynnwys cymysgedd o seilwaith a fydd yn cael ei ystyried ar sail adborth cymunedol, tirwedd, amgylchedd, defnydd tir, gweithredu a chynnal a chadw, y pŵer sy’n cael ei drosglwyddo ar draws y rhwydwaith, yn ogystal â chos,” medden nhw.
“Mae tystiolaeth ar draws y diwydiant yn awgrymu bod gosod ceblau tanddaearol yn llawer mwy costus ac rydym yn nodi ac yn croesawu adolygiad Llywodraeth Cymru ar y pwnc.”
O ran mynediad tir, dywedodd y cwmni: “Mae arolygon tir yn hanfodol i sefydlu’r holl gyfyngiadau ar hyd y llwybr gan gynnwys amodau amgylcheddol yn ogystal â thir ar gyfer peirianneg gosod ceblau uwchben ac yn danddaearol.
“Hoffai Green GEN Cymru ymgysylltu’n wirfoddol â thirfeddianwyr ac felly rydym ni a’n hasiantau tir allanol wedi bod wrthi’n trafod cytundebau gwirfoddol gyda thirfeddianwyr ers dechrau 2023.
“Yn anffodus nid ydym wedi llwyddo i ddod i gytundebau gwirfoddol gyda’r holl dirfeddianwyr, ac o ganlyniad mae rhai wedi derbyn hysbysiad statudol yn ddiweddar o dan adran 172 o’r Ddeddf Tai a Chynllunio.”