Galw ar y Gwasanaeth Iechyd i ystyried cynnig canabis meddygol i fwy o bobl
Galw ar y Gwasanaeth Iechyd i ystyried cynnig canabis meddygol i fwy o bobl
Mae’n chwe blynedd ers i ganabis gael ei gyfreithloni at ddibenion meddygol yn y Deyrnas Unedig.
Ac mae rhai o'r rheini sy’n ei ddefnyddio i ddelio a’u problemau iechyd yn galw am fwy o ymwybyddiaeth am fanteision y cyffur.
Fel prif weithredwr Cannabis Clinic Cardiff – clinig yn y brifddinas sy’n rhoi presgripsiynau i gleifion ar gyfer canabis meddygol – dywedodd Sam Ashton bod y cyffur wedi “newid fy mywyd".
Fe gafodd Ms Ashton ddiagnosis o glefyd Crohn yn 2003. Roedd ei salwch wedi effeithio ar ei bywyd pob dydd, a hithau’n dioddef yn bennaf gyda chyfog (‘nausea’) ac eisiau chwydu.
Roedd Ms Ashton wedi troi at ganabis i helpu lleddfu ei symptomau ac mae bellach wedi cael presgripsiwn ar gyfer canabis meddygol ers mis Hydref 2021.
Ers iddi ddechrau defnyddio canabis meddygol, mae ei blinder “wedi mynd” ac mae hi wedi cael gafael ar ei bywyd eto, meddai.
Dywedodd ei merch, Ariana, ei bod hi wedi gweld newid sylweddol yn ansawdd bywyd ei mam ers iddi ddechrau defnyddio canabis meddygol.
‘‘Dwi’n meddwl mai unrhyw un sydd yn byw gyda salwch cronig fel clefyd Crohn yn mynd trwy gyfnodau o fywyd ble ti’n meddwl fyddi di byth yn gwella," meddai.
"Mae gen i fam achos y feddyginiaeth hon."
'Mwy o ymwybyddiaeth'
Mae perchnogion Cannabis Clinic Cardiff bellach yn galw am “fwy o ymwybyddiaeth” am y cyffur.
Fe allai canabis helpu’r rheini sy’n derbyn triniaeth cemotherapi, yn ogystal â rheini sy’n byw gyda sclerosis ymledol (MS) ac achosion arbennig o epilepsi, meddai perchnogion y clinig.
Ac mae Sam Ashton eisiau i’r cyffur fod ar gael i fwy o bobl, gan ei fod e, yn ôl hi, bron yn “amhosib” cael presgripsiwn drwy’r Gwasanaeth Iechyd.
Mae Dr David Howells, seicolegydd a chyfarwyddwr y clinig, yn dweud bod yna ystrydebau negyddol ynghlwm â defnydd canabis.
"Yn bendant mae cymryd canabis meddygol dal yn dabŵ mewn cymdeithas ac ymysg meddygon proffesiynol," meddai.
Mae’n dweud bod yna fanteision “aruthrol” o’i ddefnyddio, ac mae’n galw am fwy o ymwybyddiaeth amdano fel opsiwn pan nad yw meddyginiaeth arferol yn gweithio.
'Angen tystiolaeth'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai “mater i glinigwyr unigol” yw’r penderfyniad i roi presgripsiwn ar gyfer canabis meddygol a dylai canabis meddygol gael ei ddefnyddio “lle mae tystiolaeth glir o fudd" yn unig.
Dylai presgripsiynau gael eu rhoi gan feddygon arbenigol wedi i driniaethau eraill fethu, ychwanegodd.
Dywedodd y llefarydd y dylid rhoi canabis at ddefnydd meddygol "lle nad oes modd diwallu angen clinigol claf gan feddyginiaeth drwyddedig eraill a lle ceisiwyd triniaeth gyda phob opsiwn addas arall, a chanfuwyd eu bod yn aneffeithiol".