'Dirwyon' i rai fu’n gyrru'r ffordd anghywir i lawr yr A55 ar ôl cau’r ffordd
Mae’r heddlu wedi rhybuddio rhai fu’n gyrru'r ffordd anghywir i lawr yr A55 wedi oedi mawr ddydd Gwener y byddwn nhw’n derbyn dirwyon.
Daw hyn wedi i dân trydanol ger Conwy arwain at gau twnnel Penmaenbach gan achosi oedi hir rhwng 11.15 a 13.00.
Dywedodd yr heddlu bod rhai gyrwyr wedi troi rownd a gyrru yn erbyn llif y traffic er mwyn cael mynd oddi ynddo.
“Dylai nifer o yrwyr ddisgwyl llythyrau drwy’r post yn dilyn digwyddiad heddiw ar yr A55,” meddai Heddlu Gogledd Cymru.
“Fe wnaeth y modurwyr greu oedi ychwanegol drwy droi eu cerbydau o gwmpas a gyrru yn erbyn llif y traffig.
“Nid yw 'fe wnaethon nhw ei wneud o' neu 'dim ond yn eu dilyn oeddwn i' yn esgus.
“Fe wnaethon ni siarad â nifer o yrwyr a dweud wrthynt am ddisgwyl llythyr drwy'r post, sy’n debygol o fod yn ddirwy a phwyntiau.
“Does neb yn hoffi bod yn sownd ar ffordd ac rydym ni'n gwybod ei fod yn hynod o rwystredig a bod gan bobl lefydd i fod - ond y cyfan rydyn ni'n ei ofyn yw ychydig o amynedd a dealltwriaeth.
“Diolch yn fawr iawn i bawb oedd yn amyneddgar.”
Llun gan Traffic Wales.