Newyddion S4C

Arestio dyn o Fôn am 'ymosodiad ysgytwol' ar ddynes mewn tafarn

09/11/2024
John Welsh

Mae dyn 61 oed wedi’i garcharu yn dilyn ymosodiad “ysgytwol” a “direswm” ar ddynes mewn tafarn yn Ynys Môn. 

Fe ymddangosodd John Welsh, o Deras Bodlondeb, Caergybi, gerbron Llys Ynadon Llandudno ddydd Iau wedi'i gyhuddo o ymosod gan achosi niwed corfforol gwirioneddol.

Plediodd Welsh, sydd yn cael ei adnabod yn lleol fel Jackie, yn euog o’r troseddau ac fe gafodd ei garcharu am 26 wythnos.

Mae hefyd wedi'i atal rhag mynd i dafarndai eraill yn Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy am gyfnod o ddwy flynedd wedi iddo gael ei wahardd rhag mynd i bob safle trwyddedig yno.

Daw wedi iddo ymosod ar ddynes nad oedd ef yn ei hadnabod yng Ngwesty’r George yng Nghaergybi yn ystod oriau mân ddydd Llun 28 Hydref⁠ eleni. 

'Dychryn'

Yn dilyn ffrae gyda dyn arall yn y dafarn, taflodd Welsh ddiod dros y ddynes a oedd yn eistedd wrth ymyl y dyn.

Ar ôl ceisio ei wthio i ffwrdd, taflodd Welsh stôl bar ati cyn neidio tuag ati, gan dynnu ei gwallt a tharo ei phen ar gadair.

Fe daflodd wydr ar draws ardal y bar cyn gadael y dafarn, a chafodd ei arestio yn fuan wedyn.

Dywedodd Rhingyll Chris Burrow o Dîm Plismona Ynys Môn: “Roedd hwn yn ymosodiad ysgytwol, llwfr a digymell ar y dioddefwr, nad oedd hyd yn oed yn adnabod Welsh.

"Fe wnaeth yr ymosodiad hefyd ddychryn pobl eraill yn y dafarn.

"Yn syml, ni fydd trais yn erbyn menywod yn cael ei oddef, a byddwn yn parhau i weithio'n ddiflino i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.