'Lle i bobl ddod at ei gilydd': Ydi'r sawna am gymryd lle’r dafarn yng Nghymru?
'Lle i bobl ddod at ei gilydd': Ydi'r sawna am gymryd lle’r dafarn yng Nghymru?
“Mae o’n wbath anhygoel dod allan o sawna ganol gaeaf, y corff yn gynnes a teimlo’r aer oer.”
Mae Iona Elen Jones o Fethesda, yng Ngwynedd, yn un o nifer cynyddol o bobol sy’n mwynhau mynd i sawna yn yr awyr agored.
A hithau wedi gweithio mewn caban chwysu yn Mecsico, mae Elen yn croesawu agoriad Sawna Bach ger Llyn Padarn yn Llanberis y penwythnos hwn.
“Ma ‘na wbath rili sbesial am gael lle fel hyn yn ystod y gaeaf i’r gymuned a dw i’n meddwl fydd lot o bobol yn dod yma fel wbath social,” meddai.
“Dw i’n meddwl ma’ ‘na ddigon o bobol yma yn gogledd Cymru sydd yn chwilio am wbath fel sawna i gymryd lle traddodiad y pub, be’ odd y pub a be’ odd yr eglwys yn hanesyddol.
"Lle i bobol ddod at ei gilydd, i fwynhau, lle i ymlacio.”
Yn ôl ffigyrau’r Gymdeithas Sawna Prydeinig, mae’r nifer o sawnau awyr agored yng Nghymru wedi dyblu dros y chwe mis diwethaf – gan gynyddu o chwech ym mis Mehefin, i 14 ym mis Tachwedd.
Ac mae rhagor ohonyn nhw ar y gweill, meddai'r gymdeithas.
Daeth Caroline Coch, perchennog Sawna Bach, ar draws sawnau awyr agored am y tro cyntaf wrth astudio yn Sgandinafia.
Yn wreiddiol o’r Almaen, fe symudodd i Gymru yn 2018 ar ôl “teimlo cysylltiad dwfn” gyda’r dirwedd – ond roedd un peth ar goll.
“Nes i ddechrau nofio dŵr oer a ro’n i bob amser yn gweld eisiau’r sawna wedyn,” meddai wrth Newyddion S4C.
Felly, blwyddyn a hanner yn ôl, fe agorodd sawna ym Mhorth Tyn Tywyn ger Rhosneigr ar Ynys Môn.
Yn wahanol i’r sawnau sydd mewn gwestai moethus, mae Sawna Bach wedi ei ysbrydoli gan y traddodiad yn Sgandinafia.
“Yn Sgandinafia mae sawna yn le yr ydych chi’n mynd iddo o ddydd i ddydd,” meddai.
“Yma, mae pobol yn mwynhau paned o de. Yno, rydych chi’n mwynhau sawna.”
Yn ôl Caroline, y syniad yw bod pobol yn mynd i mewn i'r sawna am bump i 10 munud ar y tro, gan yna ymdrochi mewn dŵr oer.
“Mae mynd i'r sawna yn dod â chymaint o fanteision iechyd anhygoel – fel manteision iechyd meddwl trwy fynd i le a mynd ar goll ym myd natur a chysylltu ag eraill – ac hefyd manteision iechyd corfforol,” meddai.
“Mae mynd i mewn i'r sawna fel gwneud ymarfer corff.”
Gad nad yw mynd i’r sawna yn draddodiad yng Nghymru, dywedodd nad oedd hi’n disgwyl i’r fenter fod “mor boblogaidd” nes ei bod yn agor un arall.
Ond beth yn union sy’n denu pobol i’r cabanau bach pren ar ddiwrnod llwydaidd?
Yn ôl ysgrifennydd y Gymdeithas Sawna Prydeinig, Gabrielle Reason, mae ein hagwedd newydd at iechyd yn ffactor dylanwadol.
“Dw i’n meddwl bod gennym werthfawrogiad newydd o’n hiechyd a sut gallwn aros mor iach â phosib wrth i ni heneiddio,” meddai.
“Achos rydyn ni’n byw yn hirach nag erioed, ond dydyn ni ddim o reidrwydd yn byw bywydau iachach.”
Ffactor dylanwadol arall, meddai Gabrielle, yw'r ffordd yr ydym ni'n cymdeithasu yn y byd modern.
“Rydym ni wedi dod i ddibynnu ar WhatsApp ac Instagram i gyfathrebu, felly dw i’n meddwl bod ‘na ddyhead gwirioneddol i gael mynd i ofodau bach heb dechnoleg a darganfod sut mae’n teimlo i ddechrau sgwrs gyda dieithryn llwyr unwaith eto,” meddai.
Mae rhai yn gobeithio y bydd sawnau yn datblygu i fod yn hybiau cymunedol yn y gaeaf.
Yn ôl Holly Fray a’i llys-dad Andy Woods o Gricieth, sydd newydd agor Sawna Cricieth ar yr arfordir, gall sawnau fod yn le i bobol gymdeithasu.
“Mae Cricieth yn rwla sy’n fywiog dros yr haf ond yn cau i lawr dros y gaeaf, felly dw i’n gobeithio fydd y sawna yn dal i ddod â pobl at ei gilydd,” meddai.
“Hwb bach i bobol gyfarfod a sgwrsio, achos weithia ti’m yn gweld rhai pobol dros y gaeaf, ti’n gweld nhw trwy’r haf ond wedyn ma' nhw’n diflannu.”
Er bod y sawna ond wedi bod ar agor am wythnos, dywedodd Andy ei fod wedi cael ymateb cadarnhaol hyd yma.
“Pan mae pobol yn gadael y sawna, maen nhw’n llawn o bositifrwydd ac yn gwenu,” meddai.
“Dw i’n sefyll yn y dderbynfa yn teimlo’n eitha’ oer rhai dyddiau ond mae’r ymateb yn fy nghynhesu i.
“Mae’r ymateb wir wedi bod yn anhygoel hyd yma.”